Newyddion S4C

Troi'r awr: Pa bryd a pham mae'r clociau'n newid?

Cloc

Fe fydd hi'n amser i droi'r awr ddydd Sul, gyda'r clociau'n symud awr ymlaen i nodi dechrau cyfnod Amser Haf Prydain.

Bydd Amser Haf Prydain, neu Amser Arbed Golau Dydd, yn golygu nosweithiau goleuach o'r wythnos nesaf ymlaen.

Ond pryd yn union fydd y clociau'n newid, a pham ei fod yn digwydd?

Pryd fydd y clociau'n newid?

Mae'r clociau'n troi awr ymlaen am 01.00 ar fore Sul olaf mis Mawrth, ac eleni bydd hynny'n digwydd ar ddydd Sul 30 Mawrth.

Mae Amser Haf Prydain yn para tan ddydd Sul olaf mis Hydref, pan fydd y clociau’n troi awr yn ôl.

Beth mae hynny'n ei olygu?

Bydd y rhai sy'n codi'n gynnar yn sylwi bod y boreau yn dywyllach yn dilyn y newid, ond bydd y nosweithiau'n oleuach wrth i'r haul fachlud yn hwyrach.

Wrth i amseroedd codi a machlud yr haul barhau i ymestyn, bydd rhannau o'r DU yn profi bron i 19 awr o olau dydd erbyn heuldro'r haf ar 21 Mehefin.

Pryd gafodd Amser Arbed Golau Dydd ei gyflwyno?

Yn groes i'r gred gyffredin, ni chyflwynwyd y newid amser er budd ffermwyr.

Mae sawl ffermwr llaeth wedi cwyno bod y newid yn amharu ar eu hamserlen, gan effethio ar wartheg sy'n ei chael hi'n anodd i ymdopi â'r newid.

Ym Mhrydain, cafodd Amser Arbed Golau Dydd ei gyflwyno gyntaf gan William Willett ym 1907.

Cyhoeddodd bamffled o'r enw The Waste Of Daylight, a oedd yn amlinellu ei rwystredigaeth o beidio â chael y gorau o ddyddiau'r haf.

Cynigiodd i ddechrau bod clociau yn symud ymlaen 80 munud mewn pedwar cam ym mis Ebrill ac yn troi'n ôl yn yr un modd ym mis Medi.

Bu farw cyn i unrhyw gyfraith gael ei gweithredu yn y DU, ond mae ei or-or-ŵyr, canwr Coldplay, Chris Martin, wedi ei weld ar waith.

Y wlad gyntaf i fabwysiadu Amser Arbed Golau Dydd oedd yr Almaen ym 1916, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Dilynodd y DU yr un drefn wythnosau'n ddiweddarach.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.