Gwesty yng Ngwynedd yn cipio gwobr Gwesty Gorau Cymru
Gwesty yng Ngwynedd yn cipio gwobr Gwesty Gorau Cymru
Mae gwesty ger Caernarfon wedi dod i'r brig gan gipio gwobr Gwesty Gorau Cymru eleni.
Daeth Gwesty Plas Dinas ger Bontnewydd i’r brig yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru mewn digwyddiad arbennig yn theatr Venue Cymru yn Llandudno nos Iau.
Mae bwyty’r gwesty - The Gunroom - wedi dod i’r brig fel y lle gorau i fwyta yng Nghymru hefyd.
Nid dyma yw’r tro cyntaf i fwyty'r Gunroom gyrraedd y penawdau yn ddiweddar gan mai Daniel ap Geraint, sef seren Cymru yng nghyfres Great British Menu ar BBC2 eleni, yw prif gogydd y gegin.
Daniel ac Annie Perks sy’n rhedeg Gwesty Plas Dinas, oedd yn gyn-gartref i aelodau o’r teulu brenhinol am gyfnod.
Dywedodd Daniel wrth Newyddion S4C ei fod yn falch iawn o ennill y gwobrau.
“Dwi’n amlwg mor hapus wnaethon ni ennill neithiwr yn y gwobrau Twrisitaeth Cymru," meddai.
“Wnaeth y Gunroom yn Plas Dinas ennill y lle gorau i fwyta yng Nghymru.
“A wnaeth y gwesty ei hun ennill y gwesty gorau yng Nghymru.
“Ma’ hwn jyst yn dangos pa mor anodd ‘da ni’n gweithio yma bob dydd, yn trio codi safona’ bob un diwrnod.
“ ‘Da ni jyst yn hapus iawn efo’r gwobrau yma.”
Roedd teulu Antony Charles Robert Armstrong-Jones, Iarll 1af Eryri, yn hanu o’r Bontnewydd yn wreiddiol. Fe wnaeth ef a’i wraig, y Dywysoges Margaret, aros yno am gyfnodau yn ystod y 1960au.
Ymhlith rhai o enillwyr eraill y noson oedd y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-muallt a gafodd ei henwi fel digwyddiad gorau Cymru.
Canolfan Rock UK yn Nhreharris, a enillodd y wobr am y Gweithgaredd, y Profiad neu'r Daith Orau, gyda Charly Dix o Lan y Môr yn Saundersfoot yn ennill gwobr yr Atyniad Newydd.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am Dwristiaeth: “Mewn byd lle mae teithio yn ein cysylltu yn fwy nag erioed o'r blaen, nid wyf yn cymryd yn ganiataol y rôl hynod bwysig y mae busnesau twristiaeth a lletygarwch yn ei chwarae. Maent yn gyrru economïau lleol ac yn cynhyrchu incwm i gymunedau ledled Cymru.
“Mae ein huchelgais yn glir: datblygu profiadau o ansawdd uchel, drwy gydol y flwyddyn sy'n cyfoethogi bywydau ymwelwyr a'n cymunedau lletyol.”