Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Cipolwg ar gemau nos Wener

Sgorio 28/03/2025
Drenewydd v Fflint

Tair rownd o gemau sydd ar ôl i’w chwarae yn y Cymru Premier JD ac mae digon yn y fantol ym mhob rhan o’r gynghrair.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol.

Pe bae’r Seintiau yn llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru, yna mi fydd y clwb sy’n gorffen yn 2il yn y tabl yn hawlio lle’n Ewrop, ac fe all Pen-y-bont sicrhau’r safle hwnnw ddydd Sadwrn.

Yn y Chwech Isaf, mae’r ras i gyrraedd y gemau ail gyfle yn poethi wedi i Gei Connah gau’r bwlch ar Y Barri i ddim ond dau bwynt.

Ac ar waelod y tabl mae’r frwydr ar ben i Aberystwyth sydd yn sicr o syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed, ac mae’r Drenewydd yn agos at y dibyn hefyd cyn teithio i Barc Jenner nos Wener.

Dyma gipolwg ar gemau nos Wener:

Y Barri (7fed) v Y Drenewydd (11eg) | Nos Wener – 19:45

Mae’r Barri wedi baglu yn y ras am y 7fed safle ar ôl colli’n hwyr yn erbyn Y Fflint ddydd Sadwrn diwethaf, a bellach dim ond dau bwynt sydd rhwng y Dreigiau a Chei Connah.

Mae’r Drenewydd yn eithriadol o agos i’r dibyn ar ôl ennill dim ond un o’u 18 gêm ddiwethaf (Aber 0-1 Dre), a bellach mae tîm Callum McKenzie driphwynt y tu ôl Llansawel a diogelwch y 10fed safle.

Gemau’n weddill yn y frwydr i osgoi’r cwymp:

Y Drenewydd: Barri (oc), Aber (c), Ffl (oc)

Llansawel: Cei (c), Ffl (c), Barr (oc) 

Er hynny, roedd y Robiniaid wedi mynd ar rediad o bedair gêm heb golli (ennill 1, cyfartal 3) cyn eu colled yn erbyn Cei Connah nos Wener diwethaf.

Mae’r record benben wedi bod yn hafal rhwng y timau wedi tair gêm y tymor hwn gyda’r Drenewydd yn ennill unwaith, Y Barri’n ennill unwaith, a’r gêm ddiwethaf yn gorffen yn gyfartal.

Mae gan flaenwr y Robiniaid, Aaron Williams, record sgorio wych yn erbyn Y Barri gan iddo daro naw gôl yn y saith gêm ddiwethaf rhwng y clybiau.

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ➖❌✅✅❌

Y Drenewydd: ͏ ➖✅➖➖❌

Aberystwyth (12fed) v Y Fflint (9fed) | Nos Wener – 20:00

Mae cyfnod di-dor Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru ar fin dod i ben gan i’r Gwyrdd a’r Duon gadarnhau eu cwymp i’r ail haen drwy golli yn erbyn Llansawel y penwythnos diwethaf.

Roedd Aberystwyth yn un o’r 20 clwb gwreiddiol chwaraeodd yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru yn 1992/93, a dim ond nhw a’r Drenewydd sydd wedi llwyddo i aros yn y brif haen ers hynny.

Ond wedi 33 o dymhorau ar y lefel uchaf, mae’n bosib y bydd y ddau glwb o’r canolbarth yn syrthio i’r ail haen eleni.

Ar ôl curo’r Barri ddydd Sadwrn diwethaf mae’r Fflint yn agosáu at y lan, a byddai triphwynt ar Goedlan y Parc nos Wener yn cadarnhau lle’r Sidanwyr yn y gynghrair am dymor arall.

Mae’r Fflint wedi ennill eu tair gêm yn erbyn Aberystwyth hyd yma’r tymor hwn, ac hynny heb ildio unwaith.

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌

Y Fflint: ͏✅✅➖❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.