Buddsoddiad £250 miliwn i 'gefnogi cannoedd o swyddi' yng Nghasnewydd
Bydd buddsoddiad £250 miliwn gan gwmni lled-ddargludyddion (semi-conductors) trydan mwyaf y DU yn "cefnogi cannoedd o swyddi" yn ne Cymru.
Mae disgwyl i'r Canghellor Rachel Reeves groesawu buddsoddiad Vishay Intertechnology ar ymweliad â ffatri'r cwmni yng Nghasnewydd ddydd Iau.
Dywedodd Llywodraeth y DU bod y buddsoddiad yn rhan o gynlluniau i ddatblygu gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion ar raddfa fawr ym Mhrydain.
Bydd y buddsoddiad yn galluogi ffatri Vishay i gynhyrchu lled-ddargludyddion Silicon Carbide.
Mae'r dechnoleg hon yn cefnogi amser gwefru batri cyflymach, gan alluogi cyflenwad mwy effeithlon o ynni i foduron trydan a phellteroedd gyrru hirach.
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y buddsoddiad yn dod â chyfleoedd gwaith i dde Cymru.
"Mae disgwyl i fuddsoddiad Vishay gefnogi’n uniongyrchol dros 500 o swyddi gwerth uchel, medrus iawn yn y rhanbarth," meddai llefarydd.
"Bydd hefyd yn cefnogi cannoedd yn fwy yn anuniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi ehangach."
'Hwb enfawr'
Mewn ymateb i'r buddsoddiad ddydd Iau, dywedodd Ms Reeves: "O dan y llywodraeth hon mae’r DU ar agor i fusnes.
"Dyma’r union fath o fuddsoddiad a fydd yn ein helpu i dyfu’r economi, creu swyddi medrus iawn a rhoi hwb i gyfleoedd i bobl ledled y wlad, wrth i ni gyflawni ein Cynllun ar gyfer Newid i gael mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens: "Mae’r buddsoddiad enfawr hwn gan Vishay a Llywodraeth y DU yn hwb enfawr i ddiwydiant lled-ddargludyddion Cymru sy’n arwain y byd.
"Yn gynharach y mis hwn roeddwn i yn Vishay yn gweld y gwaith maen nhw’n ei wneud ar weithgynhyrchu uwch, ynni adnewyddadwy ac amddiffyn y diwydiannau – oll yn sectorau allweddol yn economi Cymru."
Ychwanegodd: "Bydd y buddsoddiad hwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw i greu a chefnogi cannoedd o swyddi medrus iawn sy'n talu'n dda, gan ysgogi twf economaidd yn ne Cymru a thu hwnt a'n helpu i gyflawni ein Cynllun ar gyfer Newid."
Daw'r buddsoddiad ar ôl i filoedd o bobl golli eu swyddi yn yr ardal y llynedd wrth i gwmni dur Tata gau ei ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot.
Mae Tata bellach wedi cael sêl bendith i adeiladu ffwrnais arc trydan gwerth £1.25 biliwn yn ei waith dur ym Mhort Talbot.