Newyddion S4C

Trump yn cyhoeddi tariffau o 25% ar fewnforion ceir i America

27/03/2025
Donald Trump yn gyflwyno tollau ar geir

Mae Arlywydd America, Donald Trump, wedi cyhoeddi trethi mewnforio newydd o 25% ar geir sy'n dod i mewn i'r Unol Daleithiau.

Dywedodd Mr Trump y byddai'r tariffau diweddaraf yn dod i rym ar 2 Ebrill, gyda thaliadau ar fusnesau sy'n mewnforio cerbydau yn dechrau drannoeth.

Mae disgwyl hefyd i'r Tŷ Gwyn gyflwyno trethi mewnforio ar rannau ceir ym mis Mai.

Yn ôl Mr Trump, byddai’r mesur yn arwain at "dwf aruthrol" i’r diwydiant ceir, gan addo y byddai’n sbarduno swyddi a buddsoddiad yn yr Unol Daleithiau.

Wrth siarad yn hwyr ddydd Mercher, dywedodd Mr Trump: "Bydd [y cynnig] yn parhau i ysgogi twf. Byddwn yn codi tariff o 25% i bob pwrpas."

Ond mae arbenigwyr yn y maes wedi dweud bod y penderfyniad yn debygol o arwain at gynnydd mewn prisiau.

Mae llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, wedi beirniadu'r cynnig.

"Fel y dywedais o’r blaen, trethi yw tariffau – drwg i fusnesau, gwaeth i ddefnyddwyr a hynny yn yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd," meddai.

"Bydd yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i chwilio am atebion drwy drafodaeth, tra’n diogelu ei ddiddordebau economaidd."

Daw'r cyhoeddiad ddyddiau'n unig ar ôl i Lywodraeth Mr Trump anfon cynlluniau milwrol cyfrinachol i newyddiadurwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.