Gweithredu diwydiannol eto gan aelodau o Opera Cenedlaethol Cymru
Mae aelodau o gorws Opera Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio unwaith eto dros weithredu diwydiannol fel rhan o'u anghydfod dros doriadau.
Pleidleisodd y cantorion, sy'n aelodau o undeb Equity, dros weithredu chwe mis yn ôl, a mewn balot newydd, pleidleisiodd 95 y cant o blaid parhau â 'r ymgyrch.
Mae nhw'n anhapus ynglŷn â chynlluniau i dorri nifer aelodau'r corws, a gwneud newidiadau i'w telerau gwaith. Hyd yma, mae'r gweithredu wedi cynnwys aelodau'n gwisgo crysau T arbennig yn ystod perfformiadau, gwneud areithiau o'r llwyfan, a dosbarthu taflenni i'r gynulleidfa.
Dywedodd Simon Curtis o Equity Cymru: "Rydyn ni wedi bod yn gwbl glir ers dechrau'r anghydfod na fydd y corws yn derbyn diswyddiadau gorfodol.
"Byddai hynny gyfystyr â dod a'u gyrfaoedd i ben petae nhw am aros yng Nghymru, lle does bron ddim cyfleoedd eraill i gantorion proffesiynol. Rydyn ni'n annog rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru i ail-asesu eu cynllun busnes a'u cyllideb."
Bydd y gweithredu - fydd ddim yn cynnwys mynd ar streic - yn parhau o Ebrill 9 ymlaen.
Mae'r Opera wedi dweud yn y gorffennol fod yn rhaid iddyn nhw ystyried toriadau oherwydd "heriau ariannol cynyddol."