Dyn o Gaerdydd yn euog o lofruddio ei ddyweddi
Mae dyn o Gaerdydd wedi ei gael yn euog o lofruddio ei ddyweddi drwy ei thagu i farwolaeth.
Cafodd Victoria Thomas, oedd yn fam i ddau o blant, ei thagu i farwolaeth gan ei phartner Alcwyn Thomas ar ôl iddo dreulio’r diwrnod yn yfed yn drwm ac yn cymryd cocên.
Cafwyd hyd i Victoria, 45 oed, mewn ystafell wely sbâr ar y llawr uchaf mewn tŷ roedden nhw’n ei rannu ar Heol Caerffili yng Nghaerdydd ym mis Awst y llynedd.
Cyfaddefodd Thomas, 44 oed, i'w dynladdiad ond fe geisiodd ddadlau fod marwolaeth ei ddyweddi wedi digwydd yn dilyn gweithred rywiol oedd wedi mynd o’i le.
Roedd wedi gwadu ei fod wedi ei llofruddio ond fe'i cafwyd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 24 Ebrill.
Dangosodd lluniau cylch cyfyng ar brynhawn dydd Llun 19 Awst y llynedd y ddau yn mynd i dafarn y New Inn ar Heol Caerffili ac yna i Club 3000 Bingo yn y Gabalfa gydag aelodau o deulu'r diffynnydd.
'Dadlau'
Cafodd Alcwyn Thomas ei ddisgrifio ar y noson fel dyn oedd yn dadlau gyda phobl ac roedd wedi yfed 16 peint o lager ac wedi bod yn defnyddio cocên.
Fe welwyd y ddau yn ffraeo ar luniau cylch cyfyng tu allan i'r clwb bingo ar y noson, cyn mynd i mewn i dacsi.
Cafodd Victoria Thomas ei gweld yn fyw am y tro olaf am 21:26 y noson honno.
Ychydig ar ôl 23:00, anfonodd Alcwyn Thomas negeseuon testun at ei chwiorydd yn dweud: “Mae'n ddrwg gen i, fe wnes i rywbeth mor ddrwg”.
Cafwyd hyd i gorff Victoria yn ystod oriau mân dydd Mawrth, 20 Awst ar ôl i nith Thomas, a oedd yn pryderu am y negeseuon, fynd i chwilio amdani.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu, roedd Alcwyn Thomas yn cysgu yn ystafell wely'r cwpl ar y llawr canol.
Ni wnaeth unrhyw sylw yn ystod cyfweliad gyda’r heddlu ond yn ddiweddarach cyfaddefodd iddo dagu Victoria Thomas yn fwriadol.
'Urddas aruthrol'
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: “Roedd Victoria Thomas yn ferch, mam, chwaer, modryb, a nith annwyl iawn.
“Mae ei theulu sydd wedi eu dryllio wedi dangos amynedd ac urddas aruthrol yn ystod y dioddefaint torcalonnus hwn.
“Ar ôl lladd Victoria yn yr ystafell wely sbâr, aeth Alcwyn Thomas wedyn i gysgu yn eu hystafell wely.
“Ni wnaeth unrhyw ymdrech i adfywio Vicki na cheisio cynnig cymorth iddi ar unrhyw adeg.
“Hoffem ddiolch i’r holl dystion a gynorthwyodd yr ymchwiliad, yn ogystal â thîm yr erlyniad.”