Llywodraeth Cymru yn methu â recriwtio 'y tu hwnt i Gaerdydd'
Mae Llywodraeth Cymru yn methu â recriwtio ystod digon eang o bobl, gyda’r mwyafrif gan amlaf yn dod o ardal Caerdydd, medd adroddiad.
Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi beirniadu proses recriwtio'r llywodraeth ar gyfer swyddi yn y sector gyhoeddus, gan ei ddisgrifio fel system “anhygyrch” (‘inaccessible’).
Yn ôl adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, mae ‘na “gyfres o broblemau” gyda’r ffordd mae’r llywodraeth yn penodi pobl i swyddi newydd.
Maen nhw’n dweud fod yna “ddiffyg strategaeth” wrth benodi pobl yn ogystal â diffyg “ymwybyddiaeth” o ba swyddi gwag sydd ar gael.
Mae’r adroddiad hefyd yn beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â chyflawni’r hyn sydd wedi ei amlinellu fel rhan o strategaeth i sicrhau mwy o amrywiaeth yn y gweithle.
Pan gafodd Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ei chyflwyno yn 2020, cafodd ei chanmol fel “blaenoriaeth weinidogol,” meddai’r adroddiad.
Ond fe ddaeth y strategaeth i ben yn 2023 a does dim cynlluniau i’w adnewyddu, ychwanegodd.
'Anodd' i dderbyn cefnogaeth
Fel rhan o’r adroddiad fe glywodd y Pwyllgor gan bobl sydd â phrofiad o ymgeisio am swydd yn y sector gyhoeddus, neu bobl sydd â phrofiad o weithio yn y sector.
Roedd Damian Bridgeman, sydd bellach yn gweithio yn Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, ymhlith y rhai a rannodd ei brofiad. Ers 2014, mae ganddo brofiad o weithio mewn sawl rôl yn adran Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ag yntau’n byw gyda pharlys yr ymennydd, dywedodd ei fod yn wynebu nifer o heriau yn ei swyddi – gan ddweud fod “cael cefnogaeth yn eithaf anodd mewn gwirionedd.”
Dywedodd fod pobl yn “cymryd yn ganiataol” y byddai angen llawr o ofal arno, er ei fod yn trafod “addasiadau rhesymol” er mwyn iddo allu gwneud ei waith.
“Drwy gydol y broses rwyf wedi gorfod bod yn fodlon gofyn, ac mae yna nifer o bobl anabl na fydd yn gofyn am addasiadau rhesymol oherwydd eu bod nhw’n meddwl y bydd hynny’n cyfri yn eu herbyn nhw wrth wneud cais am benodiadau cyhoeddus,” meddai.
“Roedd yn amlwg nad oedden nhw’n gwybod pa addasiadau oedd ar gael i'w cynnig,” ychwanegodd.
Clywodd y pwyllgor bod ‘na broblemau pellach o ran cael gafael ar wybodaeth am swyddi, yn ogystal â phroblemau wrth ddod o hyd i ddogfennau, gwybodaeth am dâl, a diffyg hyblygrwydd er mwyn i bobl gyflawni cyfrifoldebau gofalu.
Angen 'cyfleoedd cyfartal'
Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ei fod yn bryderus nad yw “digon yn cael ei wneud i ddatblygu cyflenwad o dalent ar gyfer penodiadau cyhoeddus.”
“Rhaid inni gael mynediad at dalent o bob rhan o Gymru, a sicrhau cyfle cyfartal, waeth beth fo cefndir person,” meddai.
Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell mewn adroddiad arall y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus i Gymru yn unig.
Bydd y ddau adroddiad nawr yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, a bydd dadl yn cael ei threfnu yn y Senedd maes o law.