Yr actor Martin Clunes i feirniadu yn y Sioe Frenhinol eleni
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yr actor Martin Clunes yn feirniad ym Mhrif Bencampwriaeth y Ceffylau yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Mae’r actor yn adnabyddus am ei bortread o Dr Martin Ellingham yn y gyfres deledu boblogaidd, Doc Martin, ac yn fwy diweddar, Out There, a gafodd ei ffilmio yng nghanolbarth Cymru.
Mae hefyd wedi bod yn hyrwyddwr dros les ceffylau a diogelwch marchogion ers dod yn Llywydd Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) yn 2011.
Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei fod yn “ddewis delfrydol” i feirniadu’r Bencampwriaeth oherwydd ei “brofiad helaeth a’i werthfawrogiad dwfn o ragoriaeth ceffylau”.
Mae’r Sioe Frenhinol, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, yn un o brif ddigwyddiadau amaethyddol Ewrop, yn dathlu da byw Cymreig, bywyd gwledig a chystadlaethau marchogaeth.
Mae’r gystadleuaeth yn dod â’r ceffylau a’r merlod gorau o bob rhan o’r wlad i gystadlu, yn ôl y Gymdeithas.
‘Anrhydedd mawr’
Dywedodd Martin Clunes ei fod yn “anrhydedd mawr” iddo gael ei wahodd i feirniadu’r Brif Bencampwriaeth Ceffylau yn y Sioe Frenhinol eleni.
“Mae’r sioe yn uchafbwynt ar y calendr amaethyddol a marchogaeth, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld safon eithriadol y ceffylau sy’n cael eu harddangos,” meddai.
Bydd Prif Bencampwriaeth y Ceffylau yn cael ei chynnal ar ddiwrnod ola’r sioe, sef 24 Gorffennaf.
Yn ôl y gymdeithas, bydd yn cynnig “cyfle i wylwyr weld rhai o’r enghreifftiau gorau o fridio, cyflwyno a pherfformio ceffylau.”
“Mae cyfraniad Martin Clunes yn ychwanegu haen ychwanegol o fawredd at yr hyn sydd eisoes yn gystadleuaeth y bu disgwyl mawr amdani.” meddai.