
Datganiad y Gwanwyn: Rhagolwg o dwf i'r economi wedi ei haneru
Mae Canghellor y Trysorlys Rachel Reeves wedi cyhoeddi manylion Datganiad y Gwanwyn yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn dydd Mercher.
Roedd rhywfaint o newyddion drwg ymysg y cyhoeddiadau cadarnhaol gan y Canghellor, gan gynnwys barn y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd yr economi'n tyfu llawer llai na'r disgwyl yn 2025 - o 1% yn hytrach na'r rhagolwg gwreiddiol o 2%.
“Nid wyf yn fodlon â’r rhifau hyn,” meddai, gan ychwanegu fod y llywodraeth “o ddifrif ynglŷn â chymryd y camau sydd eu hangen i dyfu ein heconomi”.
Ond roedd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu twf mewn blynyddoedd i ddod i'r economi, meddai - o 1.9% yn 2026, 1.8% yn 2027, 1.7% yn 2028, ac 1.8% yn 2029.
Budd-daliadau
Ar ddechrau ei chyhoeddiad, dywedodd mai plaid gwaith oedd y Blaid Lafur, ond bod y llywodraeth wedi etifeddu system fudd-daliadau oedd wedi torri.
“Mae mwy na 1,000 o bobl yn gymwys i gael taliadau annibyniaeth bersonol bob dydd ac nid yw un o bob wyth o bobl ifanc mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant," meddai.
“Os wnawn ni ddim byd, mae hynny’n golygu ein bod yn amddifadu cenhedlaeth gyfan. All hynny ddim bod yn iawn. Mae’n wastraff ar eu potensial ac yn wastraff ar eu dyfodol,” meddai.
Dywedodd y byddai cwtogi ar fudd-daliadau'n arwain at arbedion o £3.4bn. Ond fe fydd lwfans cyffredinol Credyd Cynhwysol yn cynyddu o £92 yr wythnos yn 2025/26 i £106 yr wythnos erbyn 2029/30.
Pwysleisiodd nad oedd ei datganiad yn cynnwys unrhyw gynnydd pellach mewn trethi, ond y byddai camau'n cael eu dilyn i erlyn pobl oedd yn osgoi talu treth.

Roedd gwariant ar amddiffyn yn ganolog i'w neges, a hynny mewn cyfnod o ansicrwydd i'r economi byd-eang yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Dywedodd y byddai gwariant ar amddiffyn yn cynyddu 2.5% o gynnyrch domestig gros, gan gwtogi cymorth tramor o 0.3%. Roedd cyhoeddiad fis diwethaf y byddai toriad o £6bn mewn gwariant ar gymorth tramor er mwyn buddsoddi mewn amddiffyn.
“Byddwn yn gwario o leiaf 10% o gyllideb offer y Weinyddiaeth Amddiffyn ar dechnoleg newydd gan gynnwys dronau a thechnoleg wedi’i alluogi gan AI.
“Byddwn yn hyrwyddo gweithgynhyrchu uwch mewn lleoedd fel Glasgow, Derby a Chasnewydd, creu galw am beirianwyr a gwyddonwyr medrus iawn, a darparu cyfleoedd busnes newydd i gwmnïau technoleg a busnesau newydd yn y DU.”
Chwyddiant
Mewn ymateb i'r datganiad, tynnodd Canghellor yr Wrthblaid Mel Stride sylw at gyfres o fesurau economaidd, gan gynnwys chwyddiant, a oedd yn uwch nawr na phan oedd y Blaid Geidwadol mewn grym.
“Roedd chwyddiant, a oedd i lawr i 2% ar darged ar union ddiwrnod yr etholiad cyffredinol diwethaf o dan lywodraeth Geidwadol."
Dywedodd fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd yn rhagweld y bydd diweithdra yn parhau i godi yn y blynyddoedd nesaf.
Aeth yn ei flaen i gyhuddo arweinwyr Llafur o fod wedi “gwneud tro pedol ar eu haddewidion i bobol Prydain” yn ystod yr etholiad cyffredinol y llynedd.
Dywedodd Mr Stride wrth Dŷ’r Cyffredin: “O ystyried ei hanes, o ystyried y ffaith ei bod wedi methu â rheoli gwariant a benthyca hyd yn hyn, beth mae’n meddwl y mae’r marchnadoedd yn mynd i’w wneud o’i haddewidion diweddaraf?
“Ond mae (y Canghellor Rachel Reeves) yn dweud wrth gwrs nad oes dim o hyn yn fai arni hi, mai'r rhyfel yn Wcráin sydd ar fai, arlywydd yr Unol Daleithiau Trump, tariffau, Arlywydd Putin sydd ar fai, y Ceidwadwyr, eu hetifeddiaeth sydd ar fai, unrhyw un ond hi ei hun."
'Llymder dros uchelgais'
Wrth ymateb i ddatganiad y Canghellor, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS: "Mae'r byd wedi newid - mae'r Canghellor yn iawn am hynny.
"Yn wahanol i lywodraethau Llafur y gorffennol a gyfarfu ag argyfyngau gyda hyfdra...mae Llywodraeth y DU yn dewis llymder dros uchelgais, toriadau dros fuddsoddiad...mae’r Canghellor yn targedu’r rhai sy’n agored i niwed gyda thoriadau dwfn i les a fydd yn sbarduno tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru.
"Os yw Llywodraeth Lafur y DU o ddifrif am dwf, byddai’n ailystyried ei rheolau cyllidol i adlewyrchu’r realiti economaidd a geowleidyddol sy’n wynebu’r DU.
"Yn hytrach, mae’n gwneud i’r tlotaf a’r mwyaf bregus dalu’r pris."