Cricieth: Dyn wedi marw ar ôl mynd yn sownd mewn mwd
Bu farw dyn 92 oed o Wynedd ar ôl mynd yn sownd mewn mwd wrth gerdded trwy gae corsiog.
Clywodd cwest i farwolaeth William Morris Jones o ardal Cricieth ei fod wedi bod yn cerdded ar hyd llwybr oedd yn gyfarwydd iddo ger ei gartref yn Rhoslan.
Cafwyd apêl gan yr heddlu i ddod o hyd iddo ar ôl iddo fynd ar goll ar 28 Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Ei Fawrhydi dros Ogledd Orllewin Cymru yn y cwest yng Nghaernarfon: “Yn anffodus, roedd yr amodau yn hynod o anodd dan droed.”
Dangosodd archwiliad post-mortem ei fod wedi dioddef o hypothermia.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.