Newyddion S4C

Heddlu'n ymchwilio ar ôl i dros 70 o ddefaid gael eu dwyn yng Ngheredigion

Heddwas

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i tua 75 o ddefaid gael eu dwyn o fferm yn ne Ceredigion. 

Fe aeth y defaid ar goll o ardal Rhydlewis. Y gred yw bod y lladrad honedig wedi digwydd rhywbryd rhwng 7 Mawrth a 17 Mawrth.

Mae dyn 40 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ddwyn ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae'r defaid yn cael eu disgrifio fel rhai gyda wynebau gwyn a gwlân gwyn, gyda smotyn melyn arnynt. 

Maen nhw'n edrych yn debyg i ddefaid Texel.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 178 o Fawrth 23.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.