Gwahardd gweithgareddau antur ger Ynys Lawd
Mae pobl wedi cael eu gwahardd rhag gwneud gweithgareddau antur ar safle yn Ynys Môn am chwe mis.
Daw hyn mewn ymgais i "atal difrod" i fywyd gwyllt yn ardal Ynys Lawd yn rhan ogleddol yr ynys.
Mae rhan o'r ardal sef Comin Penrhosfeilw wedi ei nodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, bwriad y parth newydd yw ‘gwarchod rhywogaethau o adar prin, bywyd gwyllt mewn perygl a’r amgylchedd rhag difrod’.
Mae'r corff wedi caniatáu’r parth dan waharddiad yn dilyn cais gan yr RSPB.
Does dim modd i bobl fynd i’r ardal sy’n 1.8 milltir o hyd. Fe gychwynnodd y gwaharddiad ar 15 Mawrth, a bydd yn para tan 15 Medi.
Y gred yw bod y difrod yn cael ei achosi gan niferoedd cynyddol sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau fel croesi clogwyni môr ac arfordira. Maent hefyd yn poeni am y rhai sydd yn dringo, neidio a nofio yn ystod tymor bridio adar, a hynny heb ganiatâd.
Bydd aelodau’r cyhoedd yn dal i gael cerdded ar hyd llwybr yr arfordir sy’n mynd heibio’r safle.
'Llecyn anhygoel'
Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru y bydd y parth yn gwarchod bywyd gwyllt y safle “megis brain coesgoch a hebogiaid tramor, morloi a bywyd gwyllt prin arall gan gynnwys gloÿnnod byw gleision serennog.”
Eglurodd nad dod â’r gweithgareddau antur i ben yn gyfan gwbl ydi bwriad y parth newydd ond i “amlygu lle y gellir eu cynnal heb darfu ar fywyd gwyllt a rhywogaethau sydd mewn perygl.”
“Byddwn yn monitro’r hyn sy’n digwydd trwy gydol y cyfnod gwahardd ac yn adolygu’r sefyllfa ar ôl y cyfnod o chwe mis,” meddai.
Ychwanegodd Andy Godber, Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol Cyngor Ynys Môn ei fod yn cydnabod yr angen am gydbwyso gwarchod bywyd gwyllt a gweithgareddau hamdden awyr agored.
“Tra bod y brydles yn caniatáu i’r RSPB wneud penderfyniadau o’r fath yn annibynnol, byddem yn annog deialog bellach gyda’r sector awyr agored, yn ystod ac ar ôl y cyfnod prawf, i weld a oes modd dod o hyd i ateb ymarferol” meddai.
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru