Newyddion S4C

Mam sy'n derbyn budd-dal yn poeni am doriadau posib yn natganiad y Gwanwyn

26/03/2025

Mam sy'n derbyn budd-dal yn poeni am doriadau posib yn natganiad y Gwanwyn

Mae mam 35 oed o Lan Ffestiniog yn 'poeni' am doriadau posib i’w budd-dal wrth i’r Canghellor gyhoeddi ei chynlluniau gwario yn ddiweddarach. 

Ar hyn o bryd mae Sara Sanderson Williams yn derbyn taliadau annibyniaeth personol PIP am fod ganddi gyflwr sglerosis ymledol. 

Ond wythnos diwethaf fe glywodd hi fod y budd-daliadau PIP mae hi’n eu derbyn yn y fantol, wrth i Lywodraeth y DU dynhau’r meini prawf.

"Dw i’n gorfod cael ffon i fynd o gwmpas," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Efo’r plant – mae’r plant yn wyth a pump rŵan – dw i'n gorfod neud nhw’n barod, er enghraifft, yn boreua ar fy ngliniau am bo' fi methu codi tan o leia 11.00."

Mae Ms Williams yn un o dros 275,000 o bobl yng Nghymru sy’n derbyn taliadau PIP ar hyn o bryd.

Mae ei chyflwr sglerosis ymledol yn gwneud bywyd bob dydd yn ddrud ac yn anodd meddai. Mae’n dweud ei bod hi’n trio cadw’n brysur gyda'i busnes cacennau.

Heriau mawr

"Fydd o’n uffernol [os oes toriadau i PIP] ond y peth ydi 'sa neb yn gwybod ar y funud, ‘sa neis cael gwybod rwbath, pwy mae’n mynd i effeithio.

"Weithiau mae gormod o stress i fi yn creu relapses, so dw i’n goro trio peidio gweld y newyddion neu trio neud wbath arall efo’r plant, neu trio diddori’n hun so bo' fi ddim yn poeni a poeni a poeni mor gymaint."

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn barod cynllun i dorri £5 biliwn y flwyddyn o fil y wladwriaeth les erbyn 2029/2030.

Y disgwyl yw ddydd Mercher y bydd yna gyhoeddi asesiad o effaith y toriadau PIP ar y rhai sy’n ei derbyn. 

Mae’r Canghellor yn wynebu heriau mawr gyda chwyddiant a chostau benthyg yn uwch a diffyg twf yn yr economi.

Y darogan yw na fydd y £10 biliwn o arian y disgwylid oedd ar gael wedi diflannu ac y bydd yn rhaid codi arian yn lle hynny.

Bydd y Canghellor yn cyhoeddi ei chynlluniau tua 12.30 prynhawn dydd Mercher.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.