Newyddion S4C

Dedfryd o garchar wedi ei gohirio i Joey Barton am ymosod ar ei wraig

Joey Barton (PA)

Mae’r cyn bêl-droediwr Joey Barton wedi’i gael yn euog o ymosod ar ei wraig drwy ei chicio yn y pen yn eu cartref teuluol.

Derbyniodd ddedfryd o 12 wythnos o garchar wedi ei gohirio yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth. 

Gadawodd cyn-chwaraewr canol cae Manchester City a QPR Georgia Barton, 38 oed, gyda lwmp ar ei thalcen a'i thrwyn yn gwaedu ar ôl y digwyddiad yn Kew, de-orllewin Llundain, ym mis Mehefin 2021.

Roedd y ddau wedi bod yn yfed alcohol gyda dau gwpl arall tra bod eu plant yn cysgu, cyn cael ffrae feddw ​​am fater teuluol, yn ôl tystiolaeth mewn gwrandawiad blaenorol yn yr un llys.

Cydiodd Barton, 42, yn ei wraig a’i gwthio i’r llawr cyn ei chicio yn ei phen.

Roedd Mrs Barton wedi galw’r heddlu’n syth ar ôl y digwyddiad, gan ddweud bod ei gŵr “newydd fy nharo”, ond yn ddiweddarach anfonodd lythyr at erlynwyr yn tynnu ei honiadau yn ôl.

Yn yr un llys ddydd Mawrth, fe wnaeth y prif ynad Paul Goldspring wrthod disgrifiad Barton o’r digwyddiad fel un “amwys” wrth iddo ei ddyfarnu’n euog o un cyhuddiad o ymosod trwy guro ar ddiwedd achos deuddydd o hyd.

Tystiolaeth

Dywedodd Helena Duong ar ran yr erlyniad fod galwad 999 Mrs Barton i’r heddlu ar noson y digwyddiad yn “dystiolaeth gref” o’r ymosodiad, gan ei bod wedi’i disgrifio mewn “termau clir”.

Dywedodd Ms Duong fod trwyn gwaedlyd Mrs Barton yn “anaf sydd wir angen esboniad”, gan ychwanegu: “Yn amlwg, roedd yn rhywbeth na chafodd ei achosi ar ddamwain.”

Dywedodd Simon Csoka ar ran yr amddiffyniad nad oedd yn eglur beth oedd y cyfnod o amser rhwng Mrs Barton yn derbyn yr anaf a gwneud yr alwad 999.

Gan gyfeirio at y lwmp a gafodd ar ei phen, dywedodd wrth y llys: “Mae yna nifer o amgylchiadau lle gallai’r anaf fod wedi’i ddioddef yn ddamweiniol.”

Roedd y cyn bêl-droediwr, o Widnes, Sir Gaer, i fod i wynebu achos mewn llys ynadon yn 2022 ond cafodd yr achos ei ohirio ar ôl i Mrs Barton anfon llythyr at erlynwyr yn tynnu ei honiadau yn ôl.

Yn y llythyr, dywedodd fod ei hanafiadau wedi’u hachosi ar ddamwain pan symudodd ffrind i mewn i wahanu’r ddau yn ystod y ffrae.

Clywodd y llys fod y cwpl yn dal yn briod ac yn byw gyda'i gilydd.

Llun: PA

 
 
 
 
 
 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.