Ruth Jones a James Corden i drafod Gavin and Stacey yng ngŵyl y Gelli
Bydd Ruth Jones a James Corden yn trafod y gyfres ddrama boblogaidd Gavin and Stacey pan fyddan nhw yn ymddangos yng Ngŵyl y Gelli ym mis Mai.
Mae disgwyl i'r ddau actor, wnaeth gyd-ysgrifennu'r gyfres, siarad am sut y mae'r ffigyrau gwylio wedi cynyddu dros y blynyddoedd ac o le y daeth y syniad gwreiddiol.
Byddant hefyd yn trafod y bennod olaf a gafodd ei darlledu yn ystod y Nadolig. Fe ddywedodd y BBC ar y pryd bod dros hanner poblogaeth Cymru wedi gwylio'r bennod honno.
Mae Jones a Corden wedi bod yn ffrindiau ers 25 mlynedd ac fe fyddant hefyd yn sgwrsio am eu cyfeillgarwch yn ystod y digwyddiad ar Mai 23.
Mae'r ddau wedi ysgrifennu llyfr ar y cyd fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Bydd Gŵyl y Gelli yn cychwyn Mai 22 ac yn para tan Fehefin 1. Mae mwy na 600 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ystod yr ŵyl.
Ymhlith y rhai sydd i fod i gymryd rhan mae'r canwr Billy Ocean a Paloma Faith, yr awdur a'r bardd Gwyneth Lewis, y gomediwraig Miranda Hart, y newyddiadurwr Emma Barnett ac y gwleidyddion Ed Davey a Jeremy Hunt.