Llywodraeth Trump wedi anfon cynlluniau milwrol cyfrinachol i newyddiadurwr
Mae Llywodraeth yr Arlywydd Donald Trump wedi ei beirniadu yn America ar ôl i newyddiadurwr gael ei gynnwys mewn sgwrs negeseuon destun oedd yn trafod cynlluniau milwrol yn Yemen.
Fe wnaeth gohebydd y cylchgrawn The Atlantic, Jeffrey Goldberg, adrodd ei fod wedi ei wahodd i sgwrs grŵp ar ap negeseuon Signal, oedd yn cynnwys y dirprwy arlywydd JD Vance a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Pete Hegseth.
Dywedodd ei fod wedi gweld cynlluniau ymosodiadau America yn erbyn y Houthi yn Yemen, gan gynnwys targedau, pa arfau oedd yn cael eu defnyddio, ac amseru’r ymosodiadau, a hynny dwy awr cyn yr ymgyrch.
Mae beirniadaeth wedi dod gan wleidyddion o naill ochr y sbectrwm gwleidyddol yn America wedi’r adroddiad.
Dywedodd Mr Goldberg ei fod yn ymddangos ei fod wedi ei ychwanegu i’r grŵp destun ar ddamwain, ar ôl derbyn cais gan unigolyn oedd yn ymddangos i fod yn Mike Waltz, sef Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol y White House.
Dywedodd Mr Trump fore Llun nad oedd yn ymwybodol o’r erthygl.
“Mae’r ymosodiadau wedi bod yn hynod lwyddiannus ac effeithiol,” meddai Karoline Leavitt, Ysgrifennydd y Wasg yn y Tŷ Gwyn.
“Mae'r Arlywydd Trump yn parhau i fod â hyder yn ei dîm diogelwch cenedlaethol, gan gynnwys Mike Waltz.”
Dywedodd Mike Johnson, llefarydd ar ran y Gweriniaethwyr, fod cynnwys y newyddiadurwr wedi bod yn gamgymeriad, ond ei fod yn dangos “swyddogion o safon yn gwneud eu swydd yn dda.”