Cyffro wrth i weilch ddychwelyd i Wynedd eto eleni
Mae cyffro yn ardal afon Glaslyn ger Porthmadog wrth i weilch y pysgod ddychwelyd i’r ardal unwaith eto ar ôl treulio’r gaeaf yng ngorllewin Affrica.
Mae ardal Afon Glaslyn wedi bod yn dyngedfennol i ymdrechion cadwraeth yr adar prin yng Nghymru.
Canolfan Bywyd Gwyllt Glaslyn yn 2004 oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i nodi’n swyddogol bod gweilch yn nythu yno.
Roedd yr adar wedi diflannu’n llwyr o Gymru cyn hynny.
Mae’r ganolfan yn agor i ymwelwyr am y tro cyntaf eleni ddydd Llun ac mae’r iâr Elen wedi cyrraedd yn barod.
Mae disgwyl nawr i’w chymar Aran gyrraedd unrhyw adeg.
Dywedodd swyddog cyfathrebu’r ganolfan Becci Phasey ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru y bydd “twrw mawr’ pan fydd Aran yn cyrraedd cyn bo hir.
Dywedodd: “Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn paratoi’r nyth 80 troedfedd i fyny’r goeden yn barod i groesawu’r gweilch yn ôl.
‘Da ni’n lwcus bod y gweilch yn gallu bod yn ddiog o ran adeiladu nyth ac mae nhw’n gwerthfawrogi cael rhwbeth yno ar eu cyfer."
Mae miloedd o bobl ar draws y byd yn dilyn helyntion y gweilch ar gamerau arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd Becci: “Mae’n anhygoel faint o gefnogwyr sy’n gwylio ac nid dim ond yng Nghymru ond o wledydd ar draws y byd. Dyw’r gweilch ddim yn ymwybodol faint o ffans sydd yn eu gwylio o ddydd i ddydd.
“Mae Elen wedi bod yn cadw’n brysur yn pysgota,” meddai Becci.
“Unwaith fydd Aran yn ôl fydd yna dwrw mawr ar y nyth a bydd y nifer yn gwylio yn siwr o godi wedyn hefyd.
“Dydy’r gweilch yma ddim wedi cael tracker GPS felly ‘da ni ddim yn gwybod yn union lle mae nhw’n mynd dros y gaeaf. Ond ‘da ni’n gwybod bod gweilch y pysgod yn mynd i orllewin Affrica.
“Gobeithio ei fod ar y ffordd nôl a gobeithio o fewn yr wsnos fydd yn cael ei weld yn glanio ar y nyth.
“Mae’n bwysig i ni beidio cymryd yn ganiataol bod gyno ni weilch yn nythu yn lleol fan hyn.”
Llun: Facebook/Bywyd Gwyllt Glaslyn