Newyddion S4C

Prifysgol yn galw am syniadau y cyhoedd am ddyfodol campws Llambed

23/03/2025
x

Mae prifysgol wedi galw am syniadau'r cyhoedd am ddyfodol eu campws mewn tref yng Ngheredigion.

Daeth cadarnhad fis Ionawr y bydd cyrsiau’r Adran Ddyniaethau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael eu symud o Gampws Llanbedr Pont Steffan i Gampws Caerfyrddin.

Daw hynny er gwaethaf protest o flaen y Senedd a deiseb i achub addysg israddedig y campws sydd wedi derbyn dros 6000 o lofnodion.

92 o fyfyrwyr sy’n derbyn eu haddysg ar gampws Llambed ar hyn o bryd, meddai’r Is-Ganghellor Elwen Evans.

Ond dywedodd mewn cyfarfod cyhoeddus dair wythnos yn ôl nad oedd bwriad cau'r campws yn gyfan gwbl.

Mae’r brifysgol bellach wedi sefydlu ymgynghoriad yn gwahodd cynigion ar gyfer “gweithgarwch hyfyw, cynaliadwy” ar gampws y Brifysgol yn Llambed.

Dywedodd Debra Williams, Pro Is-Ganghellor, Busnes a Chysylltiadau Masnachol eu bod nhw’n “annog yn gryf i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol campws Llambed, ac sydd â chynnig ymarferol, i gymryd rhan yn y broses”. 

“Mae’r cyfarfod cyhoeddus diweddar a’r trafodaethau parhaus gyda rhanddeiliaid allweddol wedi atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithio i ddatblygu dyfodol cynaliadwy a chyffrous i’r campws. 

“Mae’r broses hon yn gyfle hanfodol i’r gymuned ehangach gyfrannu eu cynigion a helpu i lunio’r hyn a ddaw nesaf.”

Mae modd cyfrannu at y broses ymgynghori fan hyn.

Dywedodd y brifysgol mai’r cam nesaf oedd bod Grŵp Rhanddeiliaid Allweddol, sy’n cynnwys gwleidyddion lleol, arweinwyr busnes a chymuned, a grwpiau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, yn cyfarfod ddiwedd mis Mawrth.

“Bydd y grŵp hwn yn gweithio gyda’i gilydd i lunio ac asesu cynigion dichonadwy gyda’r nod o ail-ddychmygu bywiogrwydd y campws, gan gynnal gweithgareddau addysgol a masnachol amgen, a chreu cyfleoedd newydd i’r gymuned leol,” meddai’r brifysgol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.