Y Pab i wneud ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ers pum wythnos
Fe fydd y Pab Ffransis yn gwneud ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ers pum wythnos ddydd Sul, lle bydd yn cyfarch a bendithio torf o ysbyty Gemelli yn Rhufain, meddai’r Fatican.
Mae Pab Ffrancis, sy’n 88 oed, wedi bod yn gwella ar ôl cael niwmonia.
Dywedodd y Fatican ddydd Gwener fod cyflwr y Pab yn gwella, ond dywedodd un swyddog efallai y bydd yn rhaid iddo “ailddysgu siarad” yn dilyn ei ddefnydd hir o therapi ocsigen gyda llif uchel.
"Mae'r pab yn gwneud yn dda iawn” meddai, “ond mae llif uchel o ocsigen yn sychu popeth.”
“Mae angen iddo ailddysgu sut i siarad, ond mae ei gyflwr corfforol cyffredinol fel yr oedd o'r blaen," meddai Cardinal Victor Fernandez ddydd Gwener.
Ychwanegodd y Fatican fod cyflwr y pab yn sefydlog, a'i fod yn anadlu a'n symud yn well nag yr oedd.
Cadarnhaodd nad yw bellach yn defnyddio peiriant mecanyddol ar gyfer anadlu yn y nos, ond yn hytrach ei fod yn derbyn ocsigen trwy diwb bach o dan ei drwyn.
Yn ystod y dydd, mae'n defnyddio llai o ocsigen llif uchel.
Nid yw meddygon wedi rhoi unrhyw awgrym ynglŷn â pryd y bydd y Pab yn cael ei ryddhau o’r ysbyty, meddai’r Fatican.
Mae'r Pab Ffransis wedi treulio bron i 12 mlynedd fel arweinydd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.
Mae wedi dioddef nifer o broblemau iechyd trwy gydol ei oes, gan gynnwys cael tynnu rhan o un o'i ysgyfaint yn 21 oed, sy’n ei wneud yn fwy tueddol o ddioddef yn sgil heintiau ar ei frest.