Newyddion S4C

Dau ddyn 18 ac 19 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad ger Wrecsam

Ffordd Wrecsam

Mae beiciwr modur a theithiwr 18 ac 19 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad ffordd ger Wrecsam. 

Dywedodd yr heddlu bod y gwasanaeth ambiwlans wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y gwrthdrawiad ychydig cyn 11pm ddydd Gwener, 21 Mawrth.

Digwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd oedd yn ymwneud â beic modur Honda 125cc melyn ar Ffordd Wrecsam, Brychdyn Newydd. 

Cafodd y beiciwr modur a’r teithiwr eu cludo i ysbyty yn Wrecsam lle fuon nhw farw.

Bu’r ffordd rhwng lôn Coed Efa a Dale Road ar gau am beth amser er mwyn caniatáu i ymchwiliadau gael eu cynnal yn y fan a’r lle ond ers hynny mae wedi ailagor y bore yma. 

Mae'r crwner, a theuluoedd y beiciwr modur a'r teithiwr wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan swyddogion arbenigol. 

Dywedodd y Rhingyll Liam Morris o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol ei fod yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal tua adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â swyddogion. 

 “Mae ein cydymdeimlad dwys â phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad trasig hwn, meddai.

“Hoffem glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd eto i siarad â ni, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad, neu ychydig cyn hynny, sydd â lluniau camera dashfwrdd o feic modur melyn gyda dau ddyn arno i gysylltu â ni.

“Hoffem hefyd ddiolch i’r rhai a stopiodd i helpu yn y fan a’r lle, ac i fodurwyr am eu hamynedd tra roedd y ffordd ar gau er mwyn caniatáu i’n Hymchwilwyr Gwrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymholiadau cychwynnol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.