Newyddion S4C

Clwb pêl-droed Y Barri wedi 'synnu' ar ôl i chwaraewr gael ei garcharu am gyflenwi cocên

21/03/2025
Evan Press
Evan Press

Mae Clwb Pêl-droed Y Barri wedi "synnu" ar ôl i chwaraewr gael ei garcharu am gyflenwi cocên.

Cafodd Evan Press, 24 oed ei ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner yn y carchar ar 19 Mawrth ar gyhuddiad o gyflenwi cyffur Dosbarth A, sef cocên.

Mae'r amddiffynnwr yn un o brif chwaraewyr y clwb ac yn is-gapten. Mae wedi chwarae pob gêm i'r clwb yn y Cymru Premier y tymor hwn.

Mewn datganiad dywedodd y clwb eu bod wedi "synnu" ac nad oeddynt yn gwybod bod Press wedi cael ei gyhuddo.

"Rydym yn gallu cadarnhau bod Evan Press wedi ei ddedfrydu i'r carchar ar 19 Mawrth," meddai'r clwb ar X.

"Mae hyn yn sioc i'r clwb a hyd yma nid ydym yn ymwybodol o holl ffeithiau yr achos. Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Mae'r Barri yn seithfed yn y Cymru Premier JD ac yn brwydro am le yn y gemau ail-gyfle i geisio ennill lle yng nghystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.

Yn ystod ei yrfa mae Press wedi chwarae dros 130 o gemau i'r Barri.

Roedd yn chwaraewr i academi Casnewydd a chwaraeodd un gêm i'r clwb yn erbyn Cheltenham yn 2017.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.