Rhagolygon o law dros y penwythnos wedi diwrnod poetha’r flwyddyn
Mae disgwyl tywydd gwlyb dros y penwythnos, a bydd y tymheredd yn gostwng wedi diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yn hyn ddydd Iau.
Cyrhaeddodd y tymheredd 21°C yn ardaloedd Llundain a Surrey dydd Iau, a dyma’r tymheredd cyhydnos gwanwyn uchaf sydd wedi ei gofnodi ers 1972.
Ond, mae rhagolygon tywydd yn dweud bod disgwyl cawodydd ar draws rhannau helaeth o’r wlad dros y penwythnos wrth i’r tymheredd ostwng i tua 14°C.
Dywedodd y meteorolegydd Dan Stroud mai dydd Iau oedd “diwrnod cynhesaf y flwyddyn hyd yn hyn, gyda 21.3°C wedi’i gofnodi mewn rhannau o Lundain.”
“Ond mae’n troi’n llai sefydlog yn y de a’r gorllewin yn ystod dydd Gwener, gyda chawodydd yn symud ar draws ardaloedd gorllewinol a mwy o gymylau’n ymddangos mewn mannau eraill.”
Dywedodd y bydd “ychydig o heulwen cynnes”, ond na fydd y tymheredd mor uchel ag yr oedd ddydd Iau.
“Wrth nesáu at y penwythnos, dywedodd y bydd cawodydd o law yn fwy cyffredin gyda rhai cyfnodau trymach o bosib.
“Yn gyffredinol, fe fydd hi’n ddiwrnod mwy cymylog ar ddydd Sadwrn a dydd Sul gyda chyfnodau o law, ac mae’n bosib y bydd glawio trwm neu ambell i daran yn y gymysgedd.”