Newyddion S4C

Hediaidau o faes awyr Heathrow wedi ail-gychwyn ar ôl tân

21/03/2025

Hediaidau o faes awyr Heathrow wedi ail-gychwyn ar ôl tân

Mae awyrenau wedi ail-ddechrau cychwyn a gadael maes awyr Heathrow nos Wener ar ôl i dân olygu bod rhaid i'r maes awyr cau.

Cafodd tua 200,000 o deithwyr eu heffeithio am fod y maes awyr ar gau yn dilyn tân mewn is-orsaf drydan gerllaw.

Cyhoeddodd y maes awyr fore Gwener y byddai'r maes awyr ar gau tan 23:49, ond maen nhw bellach wedi dweud y bydd hediadau yn ail-gychwyn cyn diwedd y dydd.

"Mae ein timoedd wedi bod yn gweithio'n ddiflino ers y digwyddiad i sicrhau bod y systemau yn cael eu trwsio'n brydlon," meddai llefarydd.

"Rydym yn falch i ddweud y gall rhai hediadau ail-gychwyn yn hwyrach ddydd Gwener.

"Ein hediadau cyntaf fydd hediadau ar gyfer pobl sâl ac ail-leoli awyrennau. Plîs peidiwch teithio i'r maes awyr oni bai bod eich cwmni teithio wedi dweud wrthoch chi am wneud hynny.

"Rydym yn gobeithio gweithredu'n llawn ddydd Sadwrn a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth maes o law."

'Colli trydan sylweddol'

Cafodd miloedd o gartrefi eu gadael heb drydan yn yr ardal ac fe gafodd mwy na 100 o bobol eu symud o'u cartrefi ar ôl i drawsnewidydd o fewn is-orsaf drydanol North Hyde fynd ar dân yng ngorllewin Llundain.

Dywedodd y gwasanaeth tracio hediadau ar-lein, FlightRadar24 fore gwener, y byddai cau’r maes awyr yn effeithio ar o leiaf 1,351 o hediadau i Heathrow ac oddi yno.

Roedd 120 o hediadau i'r maes awyr yn yr awyr pan gyhoeddwyd y byddai'n cau.

Heathrow yw maes awyr mwyaf y DU, gyda mwy na 83.9 miliwn o deithwyr yn teithio drwyddo yn 2024.

Dywedodd llefarydd ar ran Heathrow ar adeg y digwyddiad “Mae Heathrow wedi colli trydan sylweddol ar draws y maes awyr oherwydd tân mawr mewn is-orsaf drydan gyfagos. 

"Tra bod criwiau tân yn ymateb i’r digwyddiad, nid oes gennym unrhyw eglurder ynghylch pryd y gellir adfer pŵer."

Llun: PA

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.