Newyddion S4C

Beiciwr modur wedi ei anafu'n ddifrifol yn Nhalybont, Ceredigion

Talybont

Mae beiciwr modur wedi ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Nhalybont, Ceredigion.

Cafodd yr heddlu eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A487 ychydig cyn 17.20 ddydd Llun.

Roedd beic modur Honda du a Vauxhall Corsa du yn y gwrthdrawiad.

Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau sydd wedi'u disgrifio fel rhai difrifol.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod cyn cael ei hailagor am 01.40 fore dydd Mawrth.

Mae swyddogion yr heddlu wedi diolch i'r gymuned a gynorthwyodd gyda rheoli traffig a darparu cymorth cyntaf cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd y naill gerbyd neu’r llall ychydig cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu gyda nhw.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.