Miloedd ar strydoedd Dulyn i ddathlu Dydd Sant Padrig
Roedd miloedd o blant, oedolion ac ymwelwyr ar strydoedd Dulyn ddydd Llun ar gyfer dathliadau Dydd Sant Padrig yn Iwerddon.
Roedd baneri'r wlad yn chwifio'n uchel tra bod pobl wedi gwisgo mewn lliwiau oren, gwyrdd a gwyn i nodi diwrnod nawdd sant y wlad yn y brifddinas.
Roedd 4,000 o bobl, gan gynnwys bandiau a pherfformwyr o America ac Awstria, yn rhan o’r orymdaith liwgar i ddiddanu'r dorf.
Thema'r dathliadau eleni oedd anturiaethau, neu ‘eachtrai’ yn y Wyddeleg.
Cafodd dathliadau tebyg eu cynnal hefyd yn Galway, Limerick a Corc, yn ogystal â Belfast a Derry yng Ngogledd Iwerddon.
Llun: PA