Newyddion S4C

Y llwy bren i Gymru ar ôl colli'n drwm yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd

Cymru v Lloegr

Mae Cymru wedi hawlio'r llwy bren am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl colli'n drwm o 14-68 yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dyma record o sgôr gan Loegr yng Nghaerdydd a'r 11eg gêm i Gymru golli yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r 17eg gêm brawf yn olynol yn gyfangwbl.

Roedd Lloegr yn llawer rhy gryf i Gymru ym mhob agwedd o'r gêm ac roedd y canlyniad wedi'i selio erbyn yr egwyl gyda'r ystadegwyr yn gwirio eu ffeithiau.

Roedd prif hyfforddwr dros-dro Cymru Matt Sherratt wedi gwneud dau newid i’w dîm i wynebu Lloegr.

Oherwydd anaf i fawd Tom Rogers roedd Joe Roberts yn dechrau yn ei le ar yr asgell. 

Dechreuodd Aaron Wainwright fel blaenasgellwr gan ymuno â Jac Morgan a Taulupe Faletau yn y rheng ôl am y tro cyntaf ers i Gymru guro Awstralia o 40-6 yng Nghwpan y Byd ym mis Medi 2023.

Fe ddechreuodd pethau'n wael i Gymru wrth iddyn nhw ildio cic gosb ym munudau agoriadol y gêm.

Fe benderfynodd Lloegr i beidio anelu at y pyst ond yn hytrach i gicio am yr ystlys.

Ac o'r lein wnaeth ddilyn, fe groesodd capten yr ymwelwyr Maro Itoje am gais. Gyda'r maswr Fin Smith yn trosi, roedd Lloegr ar y blaen o saith pwynt i ddim.

Fe darodd Cymru nôl ychydig funudau wedyn ar ôl i gefnwr Cymru, Blair Murray groesi o 45 metr yn dilyn cic uchel gan Loegr. 

Ond ar ôl i'r dyfarnwr ymgynghori gyda'r dyfarnwr teledu fe benderfynwyd fod mewnwr Cymru, Tomos Williams yn camsefyll felly ni chafodd y cais ei ganiatáu.

Fe gymerodd Lloegr fantais o benderfyniadau yn erbyn Cymru i ymosod gan roi'r cyfle i'r asgellwr Tom Roebuck wrthsefyll tacl Murray i groesi am ail gais ei dîm. 

Gyda Smith yn trosi o'r ystlys, roedd pethau'n edrych yn anodd i Gymru yn gynnar yn y gêm. Cymru 0-14 Lloegr.

Daeth cyfle arall i Murray ar ôl 22 munud wrth iddo weld gwagle tu ôl i amddiffyn Lloegr. Fe wnaeth Murray adennill y bêl o gic fach ond fe wnaeth llaw chwaraewr Lloegr ddal ei bigwrn i'w ddymchwel gyda'r llinell gais o'i flaen.

Daeth gobaith i Gymru ar ôl hanner awr, pan groesodd y canolwr Ben Thomas yng nghysgod y pyst yn dilyn gwaith da gan y blaenwyr o lein yn agos at y llinell. Fe drosodd y maswr Gareth Anscombe i ddod â Chymru nôl i mewn i'r gêm. Cymru 7-14 Lloegr.

Doedd gan Gymru ddim llawer o amser i ddathlu wrth i gamsyniad o'r ail-gychwyn arwain at gyfle i Loegr ymosod gyda'r canolwr Tommy Freeman yn croesi ar ôl 33 munud. Fe drosodd Smith eto. Cymru 7-21 Lloegr.

Roedd Lloegr yn rheoli'r chwarae yn llwyr ac yn llawer rhy gryf i Gymru. Daeth pedwerydd cais i Loegr a phwynt bonws iddyn nhw gan yr eilydd Chandler Cunningham-South gyda Smith yn trosi eto. Cymru 7-28 Lloegr.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wrth i Loegr groesi am bumed cais ychydig cyn yr egwyl. Y sgôr ar yr hanner: Cymru 7-33 Lloegr.

Hunan barch

Dywedodd cyn-gapten Cymru Alun Wyn Jones yn ystod yr egwyl nad oedd gan Gymru "unrhyw beth i golli" yn yr ail hanner.

Cadw'r sgôr i lawr fyddai gorchwyl Cymru yn yr ail hanner ac ennill ychydig o hunan barch.

Fe ddaeth llygedyn o obaith i Gymru ar ôl 46 munud o sgrym yn agos at llinell gais Lloegr. Ond fe lwyddodd Lloegr i gipio'r bêl o grafangau'r Cymry a chlirio dros yr ystlys.

Daeth cyfle arall i Gymru yn fuan wedyn ond fe aeth yr asgellwr Ellis Mee am y llinell ei hun gyda dynion yn sbâr ac fe darwyd y bêl ymlaen gan Aaron Wainwright.

Er i Gymru godi eu gêm roedd Lloegr yn gwrthsefyll eu hymdrechion yn gyfforddus iawn.

Wrth i Gymru ymdrechu fe groesodd Lloegr am gais yn erbyn llif y chwarae ar ôl 55 munud gyda'r mewnwr Alex Mitchell yn manteisio pan darodd pas gan Gymru yn erbyn pen Elliot Daly. Fe drosodd Smith unwaith eto. Cymru 7-40 Lloegr.

Daeth seithfed cais y gêm i Loegr ar ôl 68 munud gan yr eilydd Henry Pollock yn ei gêm gyntaf dros ei wlad gyda Smith yn trosi. Cymru 7-47 Lloegr.

Doedd y boen ddim ar ben i Gymru wrth i'r eilydd Joe Heyes groesi am drosgais. Cymru 7-54 Lloegr gyda deng munud yn weddill o hyd.

Roedd Lloegr wedi bod yn hollol glinigol trwy gydol y gêm gydag ysbryd y Cymry ar chwâl wrth chwilio am friwsion yn y munudau olaf.

Fe ddaeth rhywfaint o falchder i Gymru pan groesodd Thomas am ei ail gais o dan y pyst gyda'r eilydd Jarrod Evans yn trosi. Cymru 14-54 Lloegr.

Ond nôl daeth Lloegr gyda Pollock yn sgorio ei ail gais. Fe drosodd Smith gyda "Swing low" yn atseinio o amgylch Stadiwm Principality. Cymru 14-61 Lloegr.

Nid oedd yr artaith ar ben i Gymu wrth i Loegr sgorio trosgais arall yn yr eiliadau olaf.

Y sgôr terfynol: Cymru 14-68 Lloegr.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.