Newyddion S4C

Cefnogwr Wrecsam yn gwella ar ôl argyfwng meddygol yn ystod gêm

Cefnogwyr Wrecsam yn erbyn Wycombe Wanderers

Mae cefnogwr Wrecsam yn gwella yn yr ysbyty ar ôl dioddef argyfwng meddygol yn ystod gêm ddydd Sadwrn.

Bu'n rhaid atal y gêm rhwng Wycombe Wanderers a Wrecsam am gyfnod wedi 77 munud er mwyn i staff meddygol a'r gwasanaethau brys ddelio â digwyddiad yn yr eisteddle, lle'r oedd cefnogwyr Wrecsam.

Dywedodd y clwb bod y cefnogwr wedi cael triniaeth ac fe adawodd y stadiwm mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd y cefnogwr ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans, a bellach mae'n gwella ar ôl cael triniaeth feddygol bellach.

Diolchodd y clwb i'r staff meddygol am ymateb yn gyflym, ac maen nhw wedi dymuno gwellhad buan i'r cefnogwr.

Enillodd Wrecsam 1-0 yn Wycombe, gan olygu bod y clwb yn ail, a thriphwynt o flaen Wycombe yn Adran Un.

Mae'r clwb yn gobeithio ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth. Bydd y ddau dîm sydd yn gorffen yn gyntaf ac ail yn ennill dyrchafiad awtomatig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.