
'Cynnydd brawychus' mewn ymddygiad treisgar tuag at ddyfarnwyr rygbi
'Cynnydd brawychus' mewn ymddygiad treisgar tuag at ddyfarnwyr rygbi
Mae “cynnydd brawychus” wedi bod mewn camdriniaeth ac ymddygiad treisgar tuag at ddyfarnwyr rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru.
Dyna yw'r neges gan Gymdeithas Dyfarnwyr Rygbi'r Undeb Cymru sydd yn rhybuddio y gallai’r broblem effeithio ar ymdrechion i recriwtio dyfarnwyr newydd.
Maent yn dweud bod sawl gêm ar draws y wlad wedi eu gohirio bob wythnos oherwydd diffyg dyfarnwyr.
Ac yn ôl y Gymdeithas, bydd y broblem yn parhau hyd nes bod ymddygiad bygythiol tuag at ddyfarnwyr "yn cael ei hepgor yn gyfan gwbl".
Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod wedi "ymrwymo i ddatblygu a chefnogi swyddogion", gan fynnu nad yw gemau wedi eu gohirio oherwydd diffyg dyfarnwyr.
Mae Newyddion S4C wedi siarad â dau ddyfarnwr yn y gogledd sydd yn dweud ei bod hi'n anodd cadw dyfarnwyr yn y gamp oherwydd camdriniaeth.
Dywedodd y dyfarnwr Ceri Parry: "Ella na carfan fach o bobl sydd yn cymryd rhan yn deud pethau ar lafar, yn dreisgar, ond mae o yn digwydd, yn sicr.

"Mae’n gallu ypsetio pobol a neud i chi feddwl, ydi hyn yn wir yn rwbath dwi isho neud?”
Yn ôl yr Undeb, cafodd 39 o achosion o gamdrin llafar neu corfforol tuag at ddyfarnwyr a chwaraewyr eu cofnodi mewn 4691 o gemau y tymor diwethaf, sef canran o 0.8%.
Hyd yma y tymor hwn, mae camdriniaeth wedi ei adrodd mewn 1.5% o gemau - sef 54 allan o 3553 - sydd bron yn ddwbl y ganran ers y llynedd.
Mae’r Gymdeithas yn dweud eu bod yn cydnabod ymdrechion yr Undeb i fynd i'r afael â chamdriniaeth, ond mae’r corff yn galw am gosbau llymach i’r chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr sy’n ymddwyn yn annerbyniol.

Ceri Parry – “Mae mwy o drais llafar tuag at merched nac i ddynion sy’n dyfarnu.”
Mae Ceri Parry o Dinas ger Caernarfon wedi bod yn dyfarnu rygbi dynion ers pedair blynedd ar ôl rhoi’r gorau i chwarae, ac yn dweud fod dyfarnu wedi rhoi ‘profiadau bythgofiadwy' iddi.
Ond dywedodd fod rhai profiadau wedi ei gadael yn cwestiynu a fydd yn parhau i ddyfarnu.
“Pan mae pobl yn bod yn dreisgar ar lafar neu ddod atoch chi’n uniongyrchol a bod yn fwy personol, adeg yna mae’n gallu llechio chi fel person.
“Dwi di profi fo’n eitha aml a dwi di clywed straeon gan ddyfarnwyr eraill lle mae o’n digwydd - ella bod pobl ddim yn ymwybodol bod o’n digwydd yn fwy aml nag ydi o.
“Ella na carfan fach o bobl sydd yn cymryd rhan yn deud pethau ar lafar, yn dreisgar, ond mae o yn digwydd, yn sicr.
“Pan mae 'na rywun yn dod atoch chi, boed o’n syth ar ôl gêm neu wedyn yn y clwb a meddwl bod o’n iawn iddyn nhw cael deud eu dweud, dim mewn ffordd adeiladol ond mewn ffordd treisgar a mewn ffordd uniongyrchol bersonol - yndi mae hynny yn effeithio ar unigolion, ac yn sicr yn effeithio arnaf i ac ar hyder.
“Yn sicr, mae’n gallu ypsetio pobol a neud i chi feddwl, ydi hyn yn wir yn rwbath dwi isho neud?”
Mae Ceri yn credu fod dyfarnwyr benywaidd yn gorfod delio â mwy o gamdriniaeth ar lafar na ddyfarnwyr sydd yn ddynion.
“Mae 'na eitha dipyn o ferched yn y gogledd sydd yn dyfarnu, a dwi’n sicr yn gwybod fod 'na fwy o straeon o drais llafar tuag atyn nhw nac i ddynion sydd allan yna yn dyfarnu.
“Dyla fo ddim bod yn hynna, dyla fod ddim gwahaniaeth rhwng pwy bynnag sydd yna yng nghanol cae, dyla nhw fod yn cael yr un un lefel o barch a rhywun arall.
Yn ôl URC, cafodd pedwar achos swyddogol o gamdrin dyfarnwyr benywaidd eu cofnodi'r tymor diwethaf, ac mae pedwar eisoes wedi eu cofnodi ar gyfer y tymor hwn.
Mei Gwilym – ‘'Da ni ar ben ein hunain yn llwyr’
Mae Mei Gwilym, o’r Felinheli, wedi bod yn dyfarnu gemau Adran Un y Gogledd ers pedwar tymor, ac mae hefyd wedi chwarae a hyfforddi rygbi.
Mae’n dweud nad yw ymddygiad treisgar gan chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr yn “dderbyniol”, gan alw am gosbau “mor llym â phosib” i’r rhai sy’n gyfrifol.
“Mae rhai dyfarnwyr yn cael hi’n waeth na’i gilydd a dwi ar y cyfan wedi cael profiadau positif. Ond 'da ni wedi clywed am bobl sydd wedi cael profiadau hynod o negatif a felly yn 'neud y penderfyniad i adael y gêm yn y diwadd.
“Mae’n hynod o siomedig bod o dal i ddigwydd. Mae dyfarnwyr ar ben ein hun yn llwyr. 'Da ni’n cyrraedd y clwb ar ben ein hunain, 'da ni ar y cae ar ben ein hunain ac ar ddiwedd y gêm hefyd.
“Ar y lefel uchel maen nhw’n cael Assistant Referees, Swyddogion Teledu, fflyd o gamerâu – sgen’a ni ddim byd fel hynna. Da ni’n gorfod neud y penderfyniadau ma’ i gyd ein hunain ac o fewn ychydig o eiliadau – mae’n anodd ac mae’n lot o bwysau.
“Ond wedyn pan mae 'na elfen o ddiogelwch neu gamdrin geiriol neu gorfforol yn mynd ymlaen, mi fysa fo’n gallu rhoi pobol off de.”
Ychwanegodd: “S’gen ni ddim digon o reffyris. Da ni newydd yn ddiweddar 'di gal neges yn gofyn os ydan ni ar gael dydd Sadwrn yma i ail-ystyried achos fydd na sawl gêm fydd ddim yn mynd ymlaen oherwydd diffyg referees.
“Mae’r chwaraewyr yn gwybod bod o’n job anodd, mae pawb yn gwbod bod o’ job anodd. Ond weithia mae’n cael ei anghofio ag ella mae 'na rwbath yn digwydd sy’n achosi i bobl golli eu tymer a gwylltio a gweiddi.
“Mae’n bwysig fod pobol yn cofio hynna ac yn cofio taw unigolion ydan ni, pobol ydan ni tu ôl i’r wisg.”
‘Cynnydd brawychus ers y pandemig’
Yn ôl Cymdeithas y Dyfarnwyr, mae achosion o gam-drin a bygythiadau treisgar ar gynnydd ers y pandemig.
Dywedodd llefarydd ran y Gymdeithas: “Mae llawer o achosion o gam-drin tuag at ddyfarnwyr yng Nghymru wedi eu hadrodd y tymor hwn. Nid yw’r gamdriniaeth wedi’i chyfyngu’n unig i iaith anweddus, ond hefyd i fygythiadau o drais corfforol.
“Mae camdriniaeth tuag at ddyfarnwyr yn broblem hanesyddol. Ond mae'n ymddangos bod cynnydd brawychus yn yr achosion o gam-drin ers y pandemig.
“Yn bendant, mae yna ddiffyg dyfarnwyr ac mae URC wedi colli nifer o ddyfarnwyr y tymor hwn oherwydd y cynnydd mewn cam-drin.
“Mae gemau'n cael eu gohirio yn rheolaidd oherwydd nad oes unrhyw ddyfarnwyr ar gael.
"Credwn y bydd hyn yn parhau i ddigwydd hyd nes y bydd cam-drin yn cael ei hepgor o'n camp."
“Mae URC yn ymdrechu i leihau cam-drin dyfarnwyr, ond mae angen gwneud llawer mwy. Mae angen delio'n fwy difrifol ag unrhyw un sy'n cael ei gyhuddo o gamdrin dyfarnwyr."
'Cefnogi dyfarnwyr'
Mewn ymateb, dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod mwy o lefel o ddyfarnwyr sydd wedi'u recriwtio dros y ddau dymor diwethaf yn "uwch na'r disgwyl".
Mae URC hefyd yn cynnal symposiwm blynyddol yn rhoi sylw i ddatblygiad dyfarnwr ac ar gamdriniaeth dyfarnwyr yn ogystal.
Dywedodd llefarydd ar ran URC: "Mae recriwtio dyfarnwyr mewn sefyllfa iach, ac yn uwch na'r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl dros y ddau dymor diwethaf, felly nid oes arwyddion amlwg fod camdriniaeth yn atal pobl rhag ceisio dod yn ddyfarnwyr.
"Mae URC wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi swyddogion rygbi ar draws Cymru, gan sicrhau bod clybiau ac unigolion yn deall eu cyfrifoldebau wrth ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau o gamdrin dyfarnwyr."
Ychwanegodd fod yr Undeb yn gweithredu gyda chod ymddygiad a rheoliadau disgyblu er mwyn "mynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol a digwyddiadau o gamdrin dyfarnwyr."
"Mae URC yn cydweithio â Chymdeithas Dyfarnwyr Rygbi'r Undeb Cymru er mwyn mynd i'r afael â chamdriniaeth, ac wedi sefydlu mesurau newydd i gefnogi swyddogion yn y gêm gymunedol.
“Mae clybiau’n cael eu hatgoffa o’u cyfrifoldebau gyda’r protocolau ar gyfer diwrnod y gêm yn eu lle.
“Mae’r rhain yn cael eu dosbarthu i glybiau a’u rannu ar gyfryngau cymdeithasol, a’u bwriad yw cefnogi swyddogion a chlybiau, yn enwedig o ran rheoli’r maes technegol.
“Mae mesurau eraill yn cynnwys defnyddio camerâu corff, ac adolygwyr gemau, a sicrhau bod clybiau’n penodi Swyddog Cyswllt Dyfarnwyr ar ddiwrnodau gemau.”
Prif Lun: Rod Davies Photography