Newyddion S4C

Dros 160 o fwytai Cymru yn torri cyfraith hylendid bwyd

13/03/2025
Sgor Hylendid Bwyd

Mae 161 o fwytai a thafarndai ar draws Cymru wedi eu darganfod yn torri cyfraith hylendid bwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Mae ymchwiliad gan ITV Cymru wedi datgelu nad yw’r busnesau yma yn dangos y sgôr hylendid bwyd cywir, neu’n dangos un o gwbl. 

O’r 161, mae’r nifer uchaf ym Mhowys, gyda 41 o droseddau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Mae’r cais rhyddid gwybodaeth wedi dangos mai Caerdydd yw’r ail waethaf, gyda 23 o droseddwyr.

Un ohonynt oedd y bwyty The Real Ting. Ar y pryd, roedden nhw’n arddangos sgôr o 5, ond mewn gwirionedd, sgôr o 2 oedd ganddyn nhw. 

Bwyty arall oedd i’w weld yn torri’r rheolau oedd Santiagos’ Tapas - doedden nhw ddim yn arddangos unrhyw sgôr o gwbl. 

Yn ôl gwefan Cyngor Caerdydd, sgôr o 2 sydd gan Santiagos’ Tapas, sy’n golygu bod ‘angen gwella’, ond pan ofynnwyd i’r rheolwr, dywedodd mai sgôr o 5 oedd ganddyn nhw.  

Dywedodd y cyfreithiwr Jatinder Paul bod canfyddiadau ITV Cymru yn “ysgytwol oherwydd mae hynny, mewn termau cyfreithiol yn dwyll drwy gamgynrychiolaeth… Yn amlwg mae angen ymchwilio ymhellach i hyn gan yr awdurdodau perthnasol”. 

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am hylendid bwyd yn y Brifddinas, a dywedon nhw mewn datganiad bod nifer o fusnesau wedi cael eu hymweld â hwy yn ddiweddar, yn dilyn nifer o ymholiadau am eu gwir sgôr hylendid bwyd. 

Ychwanegon nhw fod y camau gweithredu priodol wedi’u cymryd fesul achos, ond fod gan bob busnes bwyd gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn arddangos y sgôr hylendid bwyd cywir ar gyfer eu busnes, yn unol â'r gofynion cyfreithiol.

Er bod sawl ymdrech gan ITV Cymru i gysylltu â Sanitagos’ Tapas, ni chafwyd unrhyw ymateb. 

Dywedodd The Real Ting: “Ers lansio ein busnes yn 2020, rydym wedi cyflawni sgôr o 4 neu 5 yn gyson.”

“Pan agorodd ein stondin marchnad yng Nghaerdydd, fe wnaethon ni arddangos y sgôr cywir o 5 …[ a phan arolygwyd], dywedodd swyddog iechyd yr amgylchedd wrthym y byddai angen i ni osod boeler newydd”

Dywedon nhw fod y broblem wedi'i gywiro ar unwaith a bod y swyddog wedi dychwelyd i'w archwilio, ond nad oedden nhw "wedi gofyn na dweud wrthyn nhw i gael gwared ar ein sgôr 5. 

Yn ôl y bwyty, nid oedden nhw'n ymwybodol bod y sgôr wedi'i recordio fel 2 ar-lein, tan i ITV Cymru gysylltu. 

Ond ers hynny maen nhw wedi cael eu hail-arolygu "ac wedi darparu sgôr 5, sydd bellach yn cael ei adlewyrchu ar-lein."

Ychwanegodd y bwyty eu "bod yn parhau i gynnal y safonau uchaf o ran hylendid a diogelwch bwyd".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.