Newyddion S4C

Nicola Sturgeon: ‘teimlad o ryddhad’ wrth iddi gyhoeddi ei bod yn gadael ei swydd

Nicola Sturgeon

Mae cyn-brif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi sôn am “deimlad o ryddhad” ar ôl cyhoeddi ei bod yn bwriadu rhoi’r gorau i fod yn aelod o Senedd yr Alban y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd Ms.Sturgeon, a fu’n arwain llywodraeth yr Alban rhwng 2014 a 2023, y newyddion mewn post ar Instagram ddydd Mercher.

Wrth siarad â newyddiadurwyr yng Nghaeredin, dywedodd ei bod yn gwybod “ers peth amser” beth oedd ei chynlluniau.

“Unwaith y byddwch chi'n ei ddweud yn uchel, mae yna ymdeimlad o ryddhad,” meddai.

“Dw i’n teimlo’n drist, achos rydyn ni’n sôn fan hyn amdana i’n troi’r dudalen ar fy mywyd, hyd yn hyn.”

“Rwyf wedi rhoi fy mywyd i geisio gwneud yr Alban yn le gwell”.

Cafodd ei hethol i Senedd yr Alban ym 1999, gan ddod yn ddirprwy arweinydd SNP a phennaeth grŵp Holyrood y blaid tra roedd Alex Salmond yn dal i fod yn San Steffan.

Gwasanaethodd fel Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Iechyd cyn cymryd drosodd y brif swydd wedi i Mr Salmond gamu lawr ar ôl colli'r refferendwm annibyniaeth.

Yn ôl Ms Sturgeon, dyna’r golled yr oedd hi’n ei difaru fwyaf yn ei phrofiad gwleidyddol.

“Rwy’n difaru’n fawr ein bod wedi dod mor agos, ond ddim yn ddigon agos at ennill annibyniaeth yn y refferendwm,” meddai.

Collodd yr ymgyrch o 45% i 55% ym mhleidlais 2014, ond y flwyddyn ganlynol enillodd yr SNP bob un ond tair o'r seddi yn yr Alban yn San Steffan.

Ychydig fisoedd wedi i Ms Sturgeon ymddiswyddo, cafodd ei gwr -  a phrif weithredwr yr SNP - Peter Murrell ei arestio a'i gyhuddo mewn cyhuddiad a chamddefnydd honedig o arian y blaid. Mae'r cwpwl bellach wedi gwahanu.

Mae disgwyl i Nicola Sturgeon gyhoeddi llyfr am ei bywyd a’i hamser mewn gwleidyddiaeth fis Awst, a bydd hi’n ymddangos ochr yn ochr â’i ffrind, yr awdur trosedd Val McDermid, mewn sioe yng Ngŵyl Gomedi Ryngwladol Glasgow ddiwedd mis Mawrth.

“Mae gen i nifer o syniadau ar gyfer y dyfodol, ond byddaf yn eu gosod allan maes o law.” meddai.

Ond mae ei hetholaeth Glasgow Southside, meddai, “yn fy nghalon a’n enaid” ac fe addawodd i “barhau i wneud fy ngorau glas ar ei gyfer, bob dydd yr wyf yn Senedd yr Alban.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.