
Tai ger peilonau newydd i dderbyn disgownt ar filiau ynni
Bydd pobl sydd yn byw ger peilonau newydd yn derbyn gostyngiad o gannoedd o bunnoedd oddi ar eu biliau ynni o dan gynlluniau newydd.
Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai tai o fewn hanner cilomedr o systemau trydan newydd fel peilonau, neu rhai sydd yn cael eu hadnewyddu yn derbyn disgownt ar eu biliau.
O dan y cynlluniau, byddai'r disgownt yn golygu arbediad o £2,500 dros 10 mlynedd, sef £250 y flwyddyn.
Mae disgwyl i'r cynllun ddod i rym yn 2026, a bydd pobl sydd yn byw o fewn hanner cilomedr i unrhyw waith newydd neu waith adnewyddu yn gymwys i dderbyn disgownt.
Hefyd mae cynllunwyr sydd yn gosod peilonau yn cael eu hannog i ariannu prosiectau fel clybiau chwaraeon a chanolfannau hamdden er mwyn gwobrwyo'r cymunedau lle mae gwaith yn cael ei gynnal.
Yng Nghymru, mae gwrthwynebiad i adeiladu peilonau mewn rhai ardaloedd.
Yn Nyffryn Tywi a Sir Benfro mae ymgyrchoedd yn erbyn gosod peilonau eisoes yn bodoli.
Fis Chwefror y llynedd roedd rhai ffermwyr yn Sir Gâr wedi dweud eu bod nhw’n gwrthod rhoi mynediad i'w tir i gwmni sy’n gobeithio codi peilonau yno.

'Buddiannau i bobl leol'
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog y DU a Gweinidog Tai y DU Angela Rayner bod y cynlluniau mewn lle i gynnig buddiannau i bobl leol yn ogystal â chyrraedd targedau Llywodraeth y DU.
"Bydd Bil Cynllunio ac Isadeiledd y llywodraeth hon yn golygu bydd biliau llai i bobl sydd yn byw ger prosiectau newydd.
"Fe fyddan nhw'n gweld budd wrth i ni barhau gyda'n cynlluniau i sicrhau dyfodol ffyniannus i'r genhedlaeth nesaf."
Mae'r cynllun hefyd yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth y DU i adeiladu 1.5 miliwn o gartrefi cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2029.