Newyddion S4C

Tonysguboriau: Gwasanaethau brys yn ymateb i 'ddigwyddiad difrifol'

Green Park

Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i'r hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel  "digwyddiad difrifol" yn ardal Green Park o Donysguboriau, Rhondda Cynon Taf.  

Mae'r cyhoedd wedi eu cynghori i gadw draw o'r ardal ar hyn o bryd.

Mae Heddlu'r De yn gofyn i bobl beidio a dyfalu am natur y digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol, ac y bydd swyddogion yn darparu rhagor o wybodaeth pan fydd ar gael.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol nos Sul dywedodd y Cynghorydd Sarah Jane Davies sydd yn cynrychioli ward Llantrisant a Thonysguboriau ar Gyngor Rhondda Cynon Taf : "Rwyf am drafod y cynnydd diweddar mewn digwyddiadau sydd wedi achosi pryder a braw yn ein cymuned. 

"Rydym yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa, ac fe’ch sicrhaf fod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion hyn yn brydlon. Heno, rwyf wedi bod mewn cysylltiad ag Andrew Morgan, arweinydd RhCT, i drafod pryderon ein cymuned. 

"Byddaf yn trefnu cyfarfod gyda Heddlu De Cymru a RhCT i fynd i'r afael â'r materion hyn yn gynhwysfawr. Byddwch yn dawel eich meddwl mai diogelwch a lles ein cymuned yw ein prif flaenoriaeth o hyd. 

"Bydd yr Heddlu’n cyhoeddi diweddariad pellach yn fuan, ac rwy’n annog pawb i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw weithgareddau amheus."

Cafodd tri heddwas eu hanafu yn Nhonysguboriau ar 31 Ionawr ac mae dyn wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw.

 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.