
Roced SpaceX yn ffrwydro unwaith eto
Mae roced SpaceX wedi ffrwydro funudau ar ôl cael ei lansio o'r Unol Daleithiau yn oriau mân fore Gwener.
Roedd cwmni'r biliwnydd Elon Musk wedi lansio'r roced 403 troedfedd o Starbase yn Boca Chica, Texas am tua 18.30 amser lleol (00.30 yng Nghymru).
Ond o fewn munudau o gael ei lansio, fe wnaeth y roced - o'r enw Starship - golli rheolaeth.
Roedd fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos malurion o'r roced yn hedfan drwy'r awyr ger de Florida ac ynysoedd y Bahamas.
Daw'r ffrwydrad fisoedd yn unig ar ôl i ymgais arall i lansio'r roced fethu.
Ers mis Ebrill 2023, mae Starship wedi cael ei lansio wyth o weithiau.
Roedd pedwar o'r ymdrechion yn llwyddiannus, a phedwar ohonynt wedi methu.

'Pelen fawr o dân'
Dechreuodd injans Starship gau i lawr wrth iddi hedfan tua'r dwyrain.
Roedd yr hediad i fod i ddod i ben gyda glaniad dros Gefnfor India.
Roedd Bret Bostwick yn gwylio'r lansiad gyda'i blant o gwch ger Ynys Ragged yn y Bahamas pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Dywedodd wrth Sky News: "Roeddwn i’n gwylio gyda fy mechgyn, saith a naw oed, ac yna’n sydyn, boom!
"Fe drodd yn belen fawr o dân, dim sŵn mewn gwirionedd.
"Felly nid oedd boom ar y pwynt hwnnw mewn gwirionedd, ond dim ond pelen fawr o dân."
Ychwanegodd: "Roedd fy mhlant yn gwybod ar unwaith ei fod wedi ffrwydro eto.
"Roedden ni wedi gweld Starship saith yn ffrwydro hefyd."
Mae Elon Musk yn datblygu Starship i fod yn system drafnidiaeth y gellir ei hailddefnyddio.
Ei obaith, yn y pen draw, yw defnyddio'r system i gludo criw a chargo i'r lleuad a'r blaned Mawrth.