Gwasanaethau brys yn ymateb i dân mynydd yng Ngheredigion
06/03/2025
Mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn ymateb i dân gwair ym Mhonterwyd, Ceredigion.
Am 09:39 ddydd Iau, cafodd criwiau o Aberystwyth a Llanidloes eu galw i'r digwyddiad ym Mhonterwyd.
Roedd y criwiau wedi ymateb i'r tân oedd wedi effeithio ar tua phedwar hectar o dir.
Bu'n rhaid i'r criwiau ddefnyddio cerbydau pob tir, curwyr a chwistrellwyr i ymladd y tân a’i atal rhag lledaenu tuag at goedwigaeth gyfagos.
Roedd gwynt yn yr ardal wedi gwneud amodau’n anodd i griwiau.