Newyddion S4C

Oakwood: Gobaith am fywyd newydd i Megafobia a reidiau eraill

06/03/2025
Megafobia

Mae dynes sy’n teithio'r byd yn mwynhau reidiau parciau thema wedi dweud ei bod hi’n disgwyl i’r rhan fwyaf o reidiau Oakwood gael ail-fywyd mewn lleoliadau newydd.

Dywedodd Charlotte Brandford ei bod hi’n disgwyl y bydd y reidiau yn cael eu symud i barciau eraill yn sgil cau Oakwood.

Fe fyddai yn “boen” symud Megafobia a gafodd adferiad £2m yn 2020 ond byddai modd gwneud gan “rywun sydd wir eisiau cadw’r rollercoaster pren gwych yma’n fyw”.

Fe gyhoeddodd cwmni Aspro Parks Group ddydd Mawrth y byddai'r parc hamdden yn cau a hynny oherwydd “heriau economaidd parhaus”.

Dywedodd Charlotte Brandford o Lundain sydd wedi teithio’r byd yn cofnodi parciau hamdden ar gyfer gwefan Diary of a Rollercoaster Girl mai Megafobia oedd yr ail orau yn y DU.

“Roedd y datganiad gan y parc yn sôn y byddai asedau a staff yn cael eu hadleoli i safleoedd eraill lle bo modd,” meddai.

“Bydd y rhan fwyaf o’r reidiau hyn yn gweithredu eto, boed hynny ar yr un safle, mewn parc arall yn y DU neu dramor.

“Megafobia yw’r pryder mawr. Mae modd ei ail-leoli, ond byddai’n boen, a byddai angen rywun sydd wir eisiau cadw’r rollercoaster pren gwych yma’n fyw.”

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd perchnogion y parc: “Gyda thristwch mawr, rydym yn cyhoeddi y bydd Parc Thema Oakwood yn cau ar unwaith. Ac rydym yn cadarnhau na fydd y parc yn agor ar gyfer tymor 2025. 

“Yn dilyn adolygiad strategol o'r busnes, mae perchennog Oakwood, Aspro Parks wedi gwneud y penderfyniad anodd hwn, yn sgil yr heriau oherwydd yr amgylchedd busnes presennol. 

“Cafodd pob opsiwn posibl ei archwilio er mwyn osgoi'r sefyllfa hon. Ac rydym yn llwyr gydnabod yr effaith ar y gymuned leol, a'r golled a gaiff ei theimlo o ganlyniad i'r penderfyniad hwn.”

‘Chwyddiant’

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, fod Llywodraeth Cymru yn aros am fanylion pellach am yr effaith ar golli swyddi ac ar ddyfodol y safle.

“Rydym yn cydymdeimlo â’r rhai y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt ac yn barod i roi cymorth i’r gweithlu ac i’r gadwyn gyflenwi,” meddai wrth y Senedd.

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Samuel Kurtz, bod cyllideb Llywodraeth y DU wedi cael effaith ar y parc.

“Mae Aspro, y rhiant-gwmni, wedi nodi’r ‘heriau economaidd di-ildio’ fel y rheswm dros y cau, ac maen nhw wedi buddsoddi dros £25 miliwn yno,” meddai.

“Maen nhw’n dweud bod cyfraniadau yswiriant gwladol, costau chwyddiant bwyd a diod, a chost rhannau o reidiau a thrydan i gyd wedi’u heffeithio.

“Ni allwn anwybyddu effaith yr hyn sydd wedi digwydd yn y Gyllideb ar benderfyniad Aspro i gau Oakwood.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.