Saith wedi'u hanafu ar ôl i awyren ymladd fomio pentref yn ddamweiniol yn Ne Korea
Cafodd saith o bobl eu hanafu yn Ne Korea ar ôl i awyren ymladd fomio pentref yn ddamweiniol yn ystod ymarfer milwrol.
Fe wnaeth y digwyddiad a oedd yn ymwneud ag awyren Air Force KF-16 gymryd lle tua 10.04 amser lleol yn ninas Pocheon, ger y ffin â Gogledd Korea.
Er bod wyth o fomiau wedi'u gollwng, y gred yw mai dim ond un bom ffrwydrodd.
Dywedodd yr Asiantaeth Tân Cenedlaethol fod pedwar o bobl wedi cael eu hanafu’n ddifrifol, gyda thri wedi dioddef mân anafiadau.
Mae tîm arbenigol yn ceisio cael gwared â'r saith bom sydd heb ffrwydro yn ddiogel, meddai awdurdodau Pocheon.
Dywedon nhw fod trigolion sy'n byw gerllaw wedi gorfod gadael yr ardal am y tro.
Mae Llu Awyr De Korea wedi ymddiheuro am y digwyddiad, gan ddweud y bydd iawndal i'r rhai sydd wedi'u heffeithio.
"Cafodd wyth o fomiau MK-82 eu rhyddhau’n annisgwyl o awyren KF-16 y llu awyr, gan lanio y tu allan i’r maes tanio dynodedig," meddai’r llu awyr.
"Rydym yn ymddiheuro'n fawr am ryddhau’r bomiau’n anfwriadol, a arweiniodd at anafiadau sifil, ac rydym yn dymuno gwellhad buan i’r rhai a anafwyd."
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yr hyfforddiant ddydd Iau yn gysylltiedig ag ymarfer ar y cyd â lluoedd yr Unol Daleithiau.
Mae disgwyl i ymarferion milwrol 'Freedom Shield' ar y cyd rhwng De Korea a’r Unol Daleithiau ddechrau yn ddiweddarach yn y mis.
Mae Gogledd Korea a De Korea yn dechnegol yn parhau i fod mewn rhyfel oherwydd daeth gwrthdaro 1950-1953 i ben mewn cadoediad, nid cytundeb heddwch.
Mae gan yr Unol Daleithiau ddegau o filoedd o filwyr yn Ne Korea, yn rhannol i amddiffyn Seoul yn erbyn Pyongyang.
Llun o awyren Air Force KF-16 gan Weinyddiaeth Amddiffyn De Korea