Newyddion S4C

Porthladd Caergybi: Dwy long wedi taro glanfa a chwalodd yn ystod Storm Darragh

06/03/2025
Porthladd Caergybi

Mae cwmni Stena Line wedi dweud bod glanfa ym Mhorthladd Caergybi wedi ei daro gan ddwy long wahanol cyn chwalu yn ystod Storm Darragh y llynedd.

Daw’r wybodaeth mewn tystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi ei gyflwyno i bwyllgor economi’r Senedd ddydd Iau gan berchnogion porthladd Caergybi.

Fe gafodd glanfa 3 oedd yn cael ei defnyddio "yn bennaf" gan gwmni Irish Ferries ei difrodi yn ystod Storm Darragh ar 6 a 7 Rhagfyr 2024. 

Nid yw Stena Line wedi dweud pa gwmni oedd biau'r llongau.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn ystod y digwyddiad medden nhw, ond bu'n porthladd ar gau am 40 diwrnod.

“Ar 6 a 7 Rhagfyr 2024, bu dau ddigwyddiad wrth angori, a oedd yn golygu nad oedd modd defnyddio angorfa Terminal 3,” meddai'r cwmni.

“Roedd y digwyddiadau hyn yn union cyn uchafbwynt Storm Darragh pan oedd y rhybudd tywydd coch yn ei le.

“Roedd y digwyddiadau angori yn ymwneud â dwy long wahanol yn cysylltu â strwythur D2.2 yn olynol i’w gilydd, gan arwain at y strwythur yn chwalu yn syth ar ôl i'r ail gwch ddod i gysylltiad. 

“Digwyddodd y cysylltiad cyntaf wrth i long gyrraedd T3, a'r ail wrth i'r llong adael yr angorfa. 

“Ni chafodd unrhyw berson ei anafu yn ystod y digwyddiadau angori na chwymp y strwythur

“Yn syth ar ôl cwymp y strwythur caewyd y porthladd gan yr Harbwr Feistr oherwydd Storm Darragh ac i ganiatáu amser i asesu'r difrod i angorfa Terminal 3.”

‘Ddim yn help o gwbl’

Dywedodd y cwmni bod angen trefnu bod deifwyr yn asesu’r difrod, ond bod Storm Darragh ac amodau gwael wedyn wedi oedi’r gwaith nes 10 Rhagfyr.

“Oherwydd natur ryng-gysylltiol y lanfa, fe'n hysbyswyd gan gynghorwyr peirianneg fod angen gwirio'r strwythur cyfan, er mwyn bodloni ein hunain yn iawn ynghylch cyflwr yr angorfeydd," medden nhw.

“Dim ond ar ôl cwblhau'r holl archwiliadau hyn yr oedd modd datblygu rhaglen i ailagor angorfa Terminal 5 yn ddiogel.” 

Mae'r digwyddiadau a'r difrod a achoswyd bellach yn destun cais am yswiriant, meddai’r cwmni.

“O'r herwydd ni ellir darparu rhagor o fanylion ar hyn o bryd er mwyn peidio â rhagfarnu'r broses hon,” medden nhw.

Dywedodd cwmni Stena eu bod nhw wedi rhoi gwybod i gwmnïoedd fferi ac eraill beth oedd yn digwydd.

Ond roedd y cwmni yn feirniadol o’r modd yr oedd rhai wedi gollwng gwybodaeth i’r wasg.

“Roedd adegau pan oedd unigolion yn gwneud datganiadau i’r cyfryngau nad oedd yn help o gwbl gan ddyfalu ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd,” meddai’r cwmni.

“Pan gafodd Stena Line Ports gyfle gan y cyfryngau, roeddem yn gallu cywiro'r rhain.”

Llun: Chris Willz

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.