Newyddion S4C

Casnewydd: Arestio tri yn eu harddegau ar amheuaeth o geisio llofruddio

05/03/2025
Ffordd Caerllion, Casnewydd
Ffordd Caerllion, Casnewydd

Mae dau ddyn ifanc 19 oed ac un bachgen 17 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Cafodd y tri eu harestio gan Heddlu Gwent fore Mercher ar ôl ymchwiliad i ymosodiad honedig yng Nghasnewydd ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth.

Maen nhw hefyd wedi eu arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol.

Cafodd dyn 36 oed ei anafu yn yr ymosodiad ar Ffordd Caerllion am 00:55.

Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty ond bellach mae wedi cael ei ryddhau.

Mae'r tri dyn sydd wedi eu harestio yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Philip O'Connell o Heddlu Gwent bod achosion fel hyn yn gallu peri gofi i'r gymuned.

"Mae trosedd yn ein cymunedau yn gallu peri gofid, ond hoffwn bwysleisi fod troseddau fel hyn yn brin iawn yng Ngwent.

"Hoffwn ddiolch i aelodau'r gymuned am eu cefnogaeth a'u cymorth wrth i'n hymchwiliad barhau."

Gall unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad, oedd yn dyst neu gyda lluniau dashcam gysylltu gyda'r heddlu trwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2500065856.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.