Newyddion S4C

Rownd a Rownd: Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda chymeriadau benywaidd yn unig

06/03/2025

Rownd a Rownd: Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda chymeriadau benywaidd yn unig

Fe fydd y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda phennod sy'n cynnwys cymeriadau benywaidd yn unig nos Iau.

Bydd y rhifyn arbennig yn cael ei ddarlledu ddeuddydd cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac yn "arddangos talent y cast a thynnu sylw at y criw benywaidd allweddol sydd ym mhob adran o’r broses greadigol" medd y cynhyrchwyr.

Fe fydd y stori’n dathlu cryfder menywod wrth i gymeriad Mel orfod geni babi mewn ardal anghysbell gyda neb ond Kay, Dani, Lowri, Sian ac Elen yn gefn iddi drwy’r cyfan.  

Bydd cymeriadau Anna, Mair, Meinir, Sophie, Gwenno, Caitlin a Lea hefyd i’w gweld yn y bennod.  

Dywedodd Elain Llwyd sy’n chwarae rhan Mel yn y gyfres ei fod yn "anrhydedd" bod yn rhan o'r bennod hon. 

“Mae’n galonogol gweld cymaint o fenywod dawnus yn dod at ei gilydd i wneud stori sy’n wirioneddol adlewyrchu cryfder a gwytnwch menywod," meddai.

"Mae’n anrhydedd bod yn rhan o rywbeth sy’n dathlu talentau menywod ym myd teledu Cymraeg."

Image
Elain Llwyd ar set Rownd a Rownd
Elain Llwyd ar set Rownd a Rownd

'Menywod talentog'

Tu ôl i'r llen, mae uwch dîm rheoli Rownd a Rownd yn cynnwys y cynhyrchwyr Annes Wyn a Lleucu Gruffydd, y golygydd sgript Llio Non, cydlynydd y cynhyrchiad Elena Brown a’r rheolwr cynhyrchu Sioned Roberts.  

Mae’r bennod hon wedi ei sgriptio gan Kristy Jones ac wedi’i chyfarwyddo gan Rhian Mair.  

Yn ychwanegol i’r rhestr yma mae menywod talentog yn rhan o’r adrannau eraill sy’n angenrheidiol i’r cynhyrchiad - colur, gwisgoedd, celf, digidol, ôl gynhyrchu, a’r criw llawr sydd ar y set o ddydd i ddydd. 

Dywedodd Lleucu Gruffydd, cynhyrchydd y gyfres ei fod yn bleser cyd-weithio gyda chymaint o "fenywod talentog".

“Rydym yn hynod falch o nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda phennod sy’n amlygu cryfder, creadigrwydd a thalent y menywod sy’n gwneud Rownd a Rownd yr hyn ydyw," meddai.

"Mae’n bleser cyd-weithio gyda’r menywod talentog a chryf yma bob dydd.” 

Ychwanegodd Annes Wyn: “Rydym wedi trafod gwneud rhywbeth arbennig ar y diwrnod yma ers rhai blynyddoedd, ac rwy’n eithriadol o falch ein bod ni wedi llwyddo i greu pennod gyffrous sy’n ffitio naratif y straeon cyfredol”. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.