
Menyw'n pledio'n euog i ddynladdiad pedwar o badlfyrddwyr yn Hwlffordd
Mae menyw wedi pledio’n euog i ddynladdiad pedwar o bobl a fu farw tra’n padlfyrddio ar Afon Cleddau yn Hwlffordd, yn y de-orllewin, yn 2021.
Yn gafel mewn baglau ag yn gwisgo crys glas a throwsus du, plediodd Nerys Lloyd, 39 oed, yn euog i'r cyhuddiad o ddynladdiad ar sail esgeulustod difrifol yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.
Dywedodd y barnwr, Mrs Ustus Fonesig Mary Stacey y bydd Lloyd yn cael ei dedfrydu ar 15 Ebrill.
Bu farw tri o'r padl-fyrddwyr, Paul O’Dwyer, 42, o Bort Talbot, Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais ar yr afon yn Hwlffordd, ar 30 Hydref.
Bu farw Andrea Powell, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Lloyd oedd perchennog ac unig gyfarwyddwr Salty Dog Co Ltd, a drefnodd y daith padlfyrddio ar ddiwrnod y marwolaethau.
Roedd Lloyd yn gweithredu fel hyfforddwr ar ddiwrnod y digwyddiad ochr yn ochr â Mr O’Dwyer, a gafodd ei ladd.
Llifogydd
Roedd llifogydd trwm wedi bod ar y diwrnod, gyda’r afon yn rhedeg yn gyflym a rhybuddion tywydd yn eu lle.
Fe wnaeth pedwar o bobl oroesi'r digwyddiad.
Dywedodd Lisa Rose, erlynydd arbenigol gydag adran troseddau arbennig Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd hon yn drasiedi y gellid ei hosgoi.
“Er gwaethaf mynd i wirio cyflwr yr afon cyn gadael ar y daith, methodd Nerys Lloyd ag archwilio’r gored.
“Profiad cyfyngedig oedd gan y mwyafrif o’r cyfranogwyr, ac nid oedd Lloyd yn gymwys i fynd â phadlfyrddwyr allan mewn amodau mor beryglus.
“Nid oedd briffio diogelwch nac asesiadau risg ffurfiol, ac ni chynghorwyd y cyfranogwyr y byddent yn croesi'r gored nac yn cael eu cyfarwyddo ar opsiynau i fynd allan o’r dŵr.
“Penderfyniad Lloyd oedd y penderfyniadau terfynol i barhau â’r digwyddiad, ac o ganlyniad roedd ganddi gyfrifoldeb llwyr a chyflawn.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr euogfarnau hyn yn rhoi rhywfaint o synnwyr o gyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu heffeithio mae ein meddyliau’n parhau gyda theuluoedd a ffrindiau’r dioddefwyr ar hyn o bryd.”

Prif Lun: PA