Huw Edwards yn ‘anfodlon’ dychwelyd ei gyflog medd cadeirydd y BBC
Mae cadeirydd y BBC wedi dweud ei fod yn “rhwystredig iawn” bod Huw Edwards yn “anfodlon” dychwelyd ei gyflog i’r gorfforaeth.
Cafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd y llynedd am fod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Ar ôl iddo bledio’n euog ym mis Gorffennaf, gofynnodd y BBC iddo ddychwelyd ei gyflog rhwng y cyfnod pan gafodd ei arestio ym mis Tachwedd 2023 a phan ymddiswyddodd ym mis Ebrill 2024.
Ond dywedodd cadeirydd y BBC, Dr Samir Shah nad oedden nhw eto wedi gallu adennill unrhyw gyflog gan Mr Edwards.
Roedd yn ymddangos o flaen Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth.
“Rydym yn amlwg wedi gofyn, ac rydym wedi ei ddweud droeon, ond mae’n ymddangos yn anfodlon,” meddai.
“Roedd yna foment pan wnaethon ni feddwl y byddai yn gwneud y peth iawn am unwaith, ac yna penderfynodd beidio â gwneud hynny.”
Ychwanegodd: “Mae hyn yn eithaf rhwystredig, a dweud y gwir, oherwydd rwy’n meddwl y dylai fod wedi ei wneud. Gallai ei wneud o hyd.
“Nid yw'n iawn. Mae wedi cymryd arian talwyr ffi’r drwydded ac roedd yn gwybod beth roedd wedi’i wneud ac fe ddylai ei ddychwelyd nawr.”