Maes carafannau Prifwyl Wrecsam wedi gwerthu allan o fewn awr
Ar ôl i'r ceisiadau agor am 10 o'r gloch fore Llun, cafodd pob un safle ar faes carafannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 eu gwerthu o fewn awr.
Yn ôl trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd 800 o safleoedd ar gael eleni.
Dywedodd llefarydd wrth Newyddion S4C y byddan nhw bellach yn cydweithio gyda’r tîm technegol i weld a oes modd ychwanegu rhagor o garafannau.
"Byddwn yn rhoi gwybod i bawb mewn da bryd os fydd yr archebion yn ail-agor," meddai'r llefarydd.
Mae'r gost i aros ar y maes carafannau wedi codi eleni i £369.
Bu prysurdeb mawr i geisio cael gafael ar le ar y maes carafannau yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan hefyd yn 2023 gyda 1,200 o safleoedd ar gael yno.
Roedd 850 o safleoedd ar gael yn Eisteddfod Sir Conwy yn Llanrwst yn 2019, ac fe gafodd y cyfan eu gwerthu o fewn dwy awr a hanner.
Ar gyfer Prifwyl Wrecsam eleni, mae lle yn dal ar gael ar y maes gwersylla teuluol ac ar faes gwersylla Hwyrnos, sef y maes newydd eleni.
Yn ôl yr Eisteddfod, mae maes pebyll Hwyrnos ar gyfer "y rheini sydd ddim cweit yn barod ar gyfer y maes carafannau a’r maes teuluol, ac am i’r parti gario 'mlaen ym Maes B ar ddiwedd y nos!"
Fe fydd yn rhaid bod dros 21 oed i aros yn Hwyrnos.