Newyddion S4C

'Sefyll gydag Wcráin': Starmer yn cwrdd â Zelensky yn Llundain

Zelensky a Starmer

Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi mynnu y bydd y Deyrnas Unedig yn “rhoi cefnogaeth lawn” i Wcráin wrth i Arlywydd y wlad, Volodomyr Zelensky ymweld â Downing Street.

Daw ymweliad Mr Zelensky i Lundain ddiwrnod yn unig ar ôl ffrae gyhoeddus gydag Arlywydd America, Donald Trump, yn y Tŷ Gwyn yn Washington DC.

Fe wnaeth Mr Starmer gofleidio’r Arlywydd wrth i’r ddau gwrdd y tu allan i Rif 10 Downing Street.

Wrth i Zelensky gyrraedd cartref y Prif Weinidog, roedd grŵp o bobl yn gwrthdystio’n gyfagos i ddangos eu cefnogaeth i Wcráin.

Dywedodd Mr Starmer wrth Mr Zelensky: “Rwy’n gobeithio eich bod chi wedi clywed y gefnogaeth yna ar y stryd.

“Dyna yw pobl y Deyrnas Unedig yn dod allan i ddangos gymaint maen nhw’n eich cefnogi a faint maen nhw’n cefnogi Wcráin.

"Rydym yn gwbl benderfynol o sefyll gyda chi, er mwyn cyflawni be rydych chi a ninnau eisiau ei gyflawni, sef heddwch sefydlog i Wcráin, wedi’i seilio ar sofraniaeth a diogelwch i Wcráin."

Ychwanegodd: “Mae mor bwysig i Wcráin, mor bwysig i Ewrop a mor bwysig i’r Deyrnas Unedig.”

Bydd Mr Starmer yn cynnal uwchgynhadledd ddydd Sul o arweinwyr Ewropeaidd i drafod diwedd i'r rhyfel rhwng Wcráin a Rwsia.

Dywedodd Mr Zelensky wrth gyrraedd y DU fod cefnogaeth yr Unol Daleithiau i’r Wcráin “yn hollbwysig”.

Fe fydd Mr Zelensky hefyd yn cwrdd â’r Brenin Charles ar ddydd Sul, ar gais y Llywodraeth.

Ffrae gyda Trump a Vance

Fe gyrhaeddodd Mr Zelensky y DU ar ôl gwrthdaro’n gyhoeddus ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump a’i is-lywydd JD Vance yn y Tŷ Gwyn ddydd Gwener.

Bwriad y cyfarfod hwnnw oedd arwyddo cytundeb i ganiatáu i’r Unol Daleithiau gael mynediad i fwynau prin yn gyfnewid am gymorth milwrol pellach.

Ond ni chafodd y cytundeb ei arwyddo oherwydd bod y ddau arlywydd wedi dechrau ffraeo.

Roedd Donald Trump wedi rhybuddio Volodymyr Zelensky ei fod yn "gamblo gyda Thrydydd Rhyfel Byd".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.