Donald Trump: 'Ti'n gamblo gyda Thrydydd Rhyfel Byd'
Donald Trump: 'Ti'n gamblo gyda Thrydydd Rhyfel Byd'
Mae Donald Trump wedi rhybuddio Volodymyr Zelensky ei fod yn "gamblo gyda Thrydydd Rhyfel Byd" mewn ffrae yn y Tŷ Gwyn.
Fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau gyfarfod gydag Arlywydd Wcráin yn Swyddfa'r Oval ddydd Gwener.
Bwriad y cyfarfod oedd arwyddo cytundeb i ganiatáu i’r Unol Daleithiau gael mynediad i fwynau prin yn gyfnewid am gymorth milwrol pellach.
Ond ni chafodd y cytundeb ei arwyddo oherwydd bod y ddau arlywydd wedi dechrau ffraeo.
"Rydych chi'n gamblo gyda miliynau o bobl... Rydych chi'n gamblo gyda Thrydydd Rhyfel Byd," meddai'r Arlywydd Trump.
Rhybuddiodd yr Arlywydd Zelensky y byddai’r Unol Daleithiau "yn ei deimlo yn y dyfodol" pe na bai’n parhau i gefnogi’r Wcráin.
"Peidiwch â dweud wrthym beth rydyn ni'n mynd i'w deimlo. Rydyn ni'n ceisio datrys problem," meddai'r Arlywydd Trump.
Mae disgwyl i Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, gyfarfod gyda'r Arlywydd Zelensky yn Downing Street dros y penwythnos.
Byddan nhw'n trafod sut i sicrhau y bydd cytundeb heddwch yn para yn Wcráin.
Yn dilyn y ffrae ddydd Gwener fe adawodd yr Arlywydd Zelensky y Tŷ Gwyn yn gynnar, gan ohirio cynlluniau i arwyddo'r cytundeb mwynau.
Fe gafodd cynhadledd newyddion yn cynnwys y ddau ei gohirio hefyd.