Wrecsam: Dyn o flaen Llys y Goron wedi ei gyhuddo o lofruddio
Mae dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron ddydd Gwener wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn o Wrecsam.
Cafodd Thomas Iveson, 30 oed o ardal Plas Madoc, ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Rhys Rowlands yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Mae disgwyl i'w achos llys ddechrau ym mis Hydref.
Mae Iveson wedi ei gyhuddo o ladd Craig Richardson, 37, fu farw yn ei gartref ar stad Plas Madoc yn Acrefair ddydd Sul.
Dywedodd teulu Craig Richardson ei fod yn ddyn “llawn hwyl” ac y bydd “colled ar ei ôl am byth”.
“Roedd Craig yn fab, tad, brawd, ewythr, nai, cefnder, partner a ffrind cariadus i lawer ac roedden ni i gyd yn ei garu â'n holl galonnau,” medden nhw.
“Bydd pawb oedd yn adnabod Craig yn dweud fod ganddo’r galon fwyaf, y byddai’n gwneud unrhyw beth drosoch chi ac roedd yn llawn hwyl.
“Bydd colled ar ôl Craig am byth, ac yn ein calonnau am byth bythoedd.”