Arestio 11 mewn ymchwiliad i droseddau cyffuriau a cham-fanteisio ar blant
Mae 11 person wedi eu harestio yn Nhorfaen yn dilyn ymchwiliad i droseddau cyffuriau a cham-fanteisio ar blant.
Mewn ymgyrch yn ystod oriau man fore Mercher 26 Chwefror, fe wnaeth Heddlu Gwent weithredu gwarantau mewn naw cyfeiriad ym Mhont-y-pŵl a Chwmbrân.
Roedd y gwarantau wedi’u cyflwyno fel rhan o ymchwiliad ‘cymhleth’ i gam-fanteisio troseddol ar blant yn y ddwy dref.
Cafodd 10 person eu harestio, gan gynnwys dyn 30 oed o Bontnewydd, Cwmbrân; a menyw 33 oed a dyn 37 oed, y ddau o Bont-y-pŵl, gafodd eu harestio ar amheuaeth o fasnachu pobl a chyflenwi canabis.
Mae'r fenyw 33 oed wedi cael ei chyhuddo o gyflenwi canabis, bod â chanabis yn ei meddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a chynllwynio i gyflenwi canabis.
Mae wedi ei chadw yn y ddalfa.
Cafodd y dyn 37 oed ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae’r dyn 30 oed yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Cafodd saith o bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed hefyd eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi canabis, ac ers hynny mae'r saith wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd yr unfed person ar ddeg, dyn 40 oed, ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr brys. Ers hynny, mae wedi ei gyhuddo.
Roedd swyddogion o dimau cymdogaeth, plismona'r ffyrdd a gweithrediadau arbenigol a diogelu Heddlu Gwent yn rhan o’r ymgyrch fore Mercher.
Roedd asiantaethau allanol hefyd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, elusennau annibynnol, adrannau addysg a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.
“Mae hyn er mwyn darparu dull sy'n canolbwyntio ar blant ac sy'n ystyriol o drawma ac i sicrhau bod gan blant fynediad at wasanaethau cymorth priodol i dorri'r cylch cam-drin,” meddai'r Ditectif Arolygydd Emma Coopey.
"Mae'r arestiadau hyn yn hanfodol er mwyn tarfu ar rwydweithiau troseddol.
“Mae ein cymunedau'n haeddu gallu byw a gweithio mewn cymdogaethau sy'n ddiogel, heb fod dan gysgod y rhai sy'n ymwneud â throseddau o'r fath.
“Dyna pam y byddwn yn parhau i chwilio am y bobl hyn a datgymalu eu gweithrediadau.
"Os ydych chi'n amau rhywun o gam-fanteisio ar blant neu bobl ifanc, neu'n meddwl bod rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef hyn, neu fe allai hynny ddigwydd yn fuan, rhowch wybod i'r Heddlu.”