Y Bala: Rhybudd i beidio â mynd yn agos at greadur sydd wedi ei weld ger Llyn Tegid
Mae rhybudd i beidio â mynd yn agos at greadur sy'n ymdebygu i racŵn sydd wedi ei weld yn ardal y Bala.
Cafodd y ci racŵn (raccoon dog) ei weld ddiwethaf ar 29 Ionawr i’r de ddwyrain o Lyn Tegid.
Mae cŵn racŵn yn cael eu hystyried fel rhywogaethau anfrodorol ymledol a allai gael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt brodorol.
Maent yn anifeiliaid sy’n crwydro, ac felly mae’n bosib y gallai gael ei weld fwy nag wyth milltir o Lyn Tegid.
Anifeiliaid bach, maint llwynogod yn wreiddiol o Ddwyrain Asia ydyn nhw, ac maent yn bwyta ffrwythau, pryfaid, cnofilod, brogaod ac adar.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â chyrff eraill, yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ymateb i’r sefyllfa hon.
Fel gydag unrhyw anifail arall, gall ymddygiad y ci racŵn fod yn anodd ei ragweld, ac felly ni ddylid mynd ato, medden nhw.
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi gweld un (yn farw neu’n fyw) rhowch wybod i linell ffôn digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gynted â phosibl ar 03000 65 3000 (llinell 24 awr yw hon).
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru