Cyhoeddi £1 miliwn i gefnogi pêl-droed merched Cymru i'r dyfodol
Mae cronfa gwerth £1 miliwn wedi ei sefydlu cyn i dîm pêl-droed merched Cymru gymryd rhan ym mhencampwriaeth yr Euros am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.
Bydd y tîm yn y Swistir i herio'r Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf ar 5 Gorffennaf.
Bwriad Llywodraeth Cymru, drwy lansio Cronfa Gymorth i Bartneriaid Euro 2025, yw i fanteisio ar y cyfle i "ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol" a chynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Bydd y gronfa'n darparu grantiau i sefydliadau ar draws y sectorau diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a'r cyfryngau.
Gallai prosiectau gynnwys:
- Cyfleoedd i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol
- Mentrau i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn chwaraeon
- Digwyddiadau dathlu ar gyfer cefnogwyr ledled Cymru, Ewrop a'r byd
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant bod merched Cymru yn cyrraedd Euro 2025 yn “ddigwyddiad hanesyddol”, a’i fod yn “darparu cyfle i adeiladu ar y diddordeb cynyddol ym mhêl-droed menywod a merched ym mhob cwr o Gymru”.
“Bydd y gronfa hon yn defnyddio arbenigedd amhrisiadwy amrediad o sefydliadau i gefnogi a gwella ein rhaglen weithgareddau sydd eisoes wedi cael ei chynllunio” meddai.
“Rydyn ni'n ymrwymo'r £1 miliwn hwn i roi hwb i nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar draws ein cymunedau, ac i arddangos Cymru ar lwyfan byd-eang.”
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod tîm y merched yn “rhoi Cymru ar lwyfan byd-eang”.
O ganlyniad i hynny, “mae gennyn ni'r potensial i ddod at ein gilydd i ddathlu, herio ystrydebau negyddol ynghylch rhywedd a chynyddu nifer y bobl sy'n chwarae pêl-droed ar bob lefel.”
“Rydyn ni'n annog sefydliadau bach a mawr i feddwl sut y gallan nhw fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn a chyflwyno eu syniadau ar gyfer dathlu Cymru yr haf hwn." meddai.