Y ffilm Conclave yn ennill prif wobr y Screen Actors Guild
Mae’r ffilm am ethol y Pab, Conclave, wedi ennill prif wobr y Screen Actors Guild mewn seremoni yn Los Angeles.
Ar ôl ennill gwobr y ffilm orau yn y Baftas yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Conclave gipio’r wobr am y cast ensemble gorau nos Sul.
Ymhlith yr enillwyr eraill roedd Demi Moore a Timothée Chalamet.
Eu cyd-actorion sy'n pleidleisio dros yr enillwyr.
Fe enillodd Chalamet y wobr am yr actor gorau am ei bortread o Bob Dylan yn A Complete Unknown.
Fe enillodd Moore y wobr am yr actores orau am chwarae rhan hyfforddwr aerobeg sy’n heneiddio ac yn cymryd cyffur marchnad ddu i greu fersiwn iau a harddach ohoni’i hun.
Fe fydd seremoni'r Oscars yn cael ei chynnal yn Los Angeles ar 2 Mawrth.
Llun: Wochit